Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceirch rhagorol. Y mae yn ein dyffryn rai ffermydd a ystyrir hyd yn hyn yn dir gwael iawn—thai ffermydd o dir du, cleiog, glydiog, ac yn caledu yn fawr wrth sychu wedi cael dwfr. Nid ydys yn gallu codi cnydau trymion ar y tir hwn, am ei fod yn rhy amddifad o elfenau brynarol. Y mae yma dir arall, o natur ysgafnach, ond yn halenaidd, neu fwy cywir, yn cynwys cryn lawer o ryw fath o nitre, ac y mae y peth hwn yn wenwynig i wenith a haidd beth bynag, er fod y tir hyn yn codi cnydau ysgeifn. Ond pwy a wyr,—pe celem elfenwr amaethyddol medrus i roi ei farn ar y tiroedd hyn na ellid eu darostwng i godi pethau ereill mewn cyflawnder. Fe ofynir y cwestiwn yn aml, A ydyw y tir yn rhedeg allan? Y mae yn anhawdd ateb y cwestiwn hwn yn foddhaol, ond yr ateb cyffredinol cywir iddo ydyw, nac ydyw. Eto y mae ystyr ag y gellir dweyd ei fod yn rhedeg allan, am ei fod wrth ei hau y naill flwyddyn ar ol y llall am lawer tymor yn rhoi yn y diwedd ysgafnach a gwanach cnwd. Yr achos o hyn, mor belled ag yr ydym yr deall yw, am ei fod yn myned yn fwy clydiog a chleiog wrth ei ddyfrhau yn barhaus, ac felly yn caledu, a myned yn llai agored i awyriad. Fe ddywedir yn y blynyddoedd hyn gan ddysgedigion amaethyddol, mai un o brif angenion tir er codi cnydau da, yw marliad neu fraenariad trwyadl, fel ag i alluogi y tir i dderbyn y rhinweddau angenrheidiol iddo ag sydd yn yr awyr. Beth bynag, nid ydym ni hyd eto wedi gwrteithio dim mor belled ag y mae gwrteithio yn golygu rhoi unrhyw fath o dail i'r tir. Yr unig ffordd gyda ni hyd yn hyn i gadw y tir i roi cnydau da ydyw, rhoi gorphwysdra iddo. Nid y gorphwysdra a feddylir yn Nghymru a manau ereill, megys newid y cnwd, ond ei adael yn hollol segur heb hau dim ynddo, na'i ddyfrhau, ac yna y mae yn sychu i fyny mewn gwlad ddi—wlaw fel yr eiddom ni, ac yn mhen dwy neu dair blynedd bydd wedi sychu a myned mor chwal a thomen ludw, a phan yr hauir ef nesaf, rhydd gnwd cyfartal ag a roddai er's deng mlynedd yn ol. Yr ydym ni yn credu hefyd fod y dwfr a gerir yn y camlesi o'r anfon i ddyfrhau y tir, yn gadael rhyw gymaint o wrtaith ar ei ol, fel y mae ein hyder y ceidw y tir ei nerth trwy y blynyddoedd ond iddo gael gorphwys i fraenaru. Y mae hefyd y sofl a droir i lawr wrth aredig yn rhyw gymaint o fraenariad