Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r tir, ac yr ydym yn credu, pe celem y peiriant medu hwnw sydd mewn rhai manau yn Awstralia yn tori yr yd yn uchel, bron yn ymyl y dywysen, ac yn ei gario yr un bryd i'r peiriant dyrnu, credwn pe celem hwn i dori ein gwenith, ac yna aredig y gwellt hwn i lawr, y byddai yn elfen farliol ardderchog i'n tir ni, gan fod cymaint o duedd i glydio a chaledu ynddo.

Ein peirianau. —Yr wyf yn meddwl y gellir dweyd nad oes un Wladfa na sefydliad o'i faint yn Ne America yn meddu cynifer o beirianau amaethyddol â'n Sefydliad ni ar y Camwy. Y mae ein hoffer amaethyddol ni yn ysgafnach na rhai Prydain. Am y rhesymau, yn un peth fod y tir yn hawddach ei drin ac yn ddi—geryg, ac hefyd am fod ein ceffylau yn ysgafnach, ac hefyd y mae y ffyrdd yn llai tolciog na ffyrdd geirwon Cymru, ac yn hollol wastad a ddi—geryg. Ni phwysa y wagen ond oddeutu haner tynell, ac yna rhoddir tynell a haner neu ddwy dynell arni, a theithir gyda llwyth bedair milldir yr awr. Y mae genym hefyd bob math o erydr, o'r aradr gerbydol i lawr—yr aradr deir cwys, dwy gwys, hyd yr aradr un gwys fwyaf syml. Pob math o ograu, march rawiau, a hauwyr. Y mae genym hefyd o ddeuddeg i bymtheg o beirianau dyrnu yn cael eu gweithio gydag ager, ac yn dyrnu o bymtheg i bum' tynell ar hugain mewn diwrnod.

Ein ffyrdd a'n pontydd.—Buom am flynyddoedd heb benu ein prif—ffyrdd na'n ffyrdd cymydogol ychwaith, ond yn awr er's rhai blynyddoedd, y mae genym ddwy brif—ffordd awdurdodedig wedi eu mesur, eu lefeli, a'u gwastadhau. Y mae y ddwy ffordd hyn yn rhedeg un bob ochr i'r dyffryn, ac yn canlyn troed y bryniau hyd y gellid eu trefnu, er mwyn peidio tori y tyddynod. "Y mae yn wir fod llawer o deithio hyd yn hyn ar hyd yr hen ffyrdd oedd yn dilyn glanau yr afon, ond goddefiad yw hyny, ac y mae yn ddiamheu nad yw yr adeg yn mhell pan y bydd y rhai hyn wedi eu cau i fyny. Y mae genym hefyd ffyrdd cymydogol. Y mae y rhai hyn yn amgylchu dau dyddyn, sef blocyn o dir yn agos i dair mil o latheni o hyd, a haner hyny o led. Y mae y ffyrdd hyn eto wedi eu mesur a'u gwastadhau. Mesura y brif ffordd bum' llath ar hugain o led, a'r ffordd gymydogol haner hyny. Nid oes ceryg yn y tir, fel yr