Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym wedi awgrymu yn barod, ac felly y mae yn anhawdd cadw y ffyrdd hyn heb dyllu wrth hir deithio ar hyd-ddynt; ond fel rheol, trwy fod y tir o natur gleiog, y maent yn caledu ar ol cafod o wlaw, a lle y bydd rhai llecynau tywodog, ein dull o wella y tyllau ydyw cario gwellt a'i roddi ar hyd-ddynt, ac yna wrth hir deithio ac ambell i gafod o wlaw, y mae yn caledu ac yn gwneud ffordd weddol dda. Cyfyngir yr holl deithio gyda wageni troliau a cherbydau i'r ffyrdd hyn, ond hyd yn hyn y mae llawer o groesu tyddynod, yn ol cyfleusdra, ar draed ac ar geffylau, ond yn y lleoedd y mae y tyddynod wedi eu cau i mewn, ac fe wneir i ffwrdd a'r arferiad hwn fel y bydd y naill dyddyn ar ol y llall yn cael eu gauad i mewn. Y mae ein hafon, fel rheol, yn rhy ddwfn i'w chroesi ond trwy bont neu mewn cwch.

Y mae yn wir fod yma rydau ynddi pan y bydd yn gydmarol isel, fel y gellir ei chroesi yn y manau hyny mewn cerbydau neu ar geffylau. O gychwyniad y Sefydliad hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol gyda chychod yr arferid groesi. Yr oedd dyn wrth ei alwedigaeth yn Rawson yn cadw cwch at y pwrpas am fod y dref o bob tu i'r afon. Yr oedd hefyd gwch gan rywun gyferbyn a phob capel ac aml i dyddynwr yn cadw cwch wrth ei dy at ei wasanaeth ei hun, ac ereill yn uno i gael cwch cydrhyngddynt mewn man cyfleus iddynt. Pan wnaed y ffordd haiarn gwelodd y cwmni fod yn fantais iddynt er mwyn denu tyddynwyr yr ochr ddeheuol i'r afon ddyfod a'i cynyrch i'r ffordd haiarn er ei gludo i Porth Madryn, fod yn angenrheidiol iddynt adeiladu pont mewn lle cyfleus, ac felly y gwnaethant. Pont o goed ydyw hon gyferbyn a Trelew rhyw naw milldir o Rawson. Yn ddiweddarach, ymunodd trigolion Rawson, i wneud pont yno i uno y ddwy ochr i'r afon o'r dref yn gystal a bod yn gyfleusdra i bobl y wlad. Pont goed ydyw hon eto, ac wedi ei hadeiladu trwy roddion gwirfoddol ac yn rhydd i bawb. Dylaswn ddweyd nad yw pont cwmni y ffordd haiarn yn rhydd a didal ond i gario gwenith neu unrhyw gynyrch arall i fyned ymaith gyda'r ffordd haiarn. Mae hefyd bont-droed grogedig yn croesi yr afon yn y Gaiman. Adeiladwyd hon eto gan y cymydogaethau cylchynol trwy roddion gwirfoddol, ond er iddi dori ddwy waith adgyweiriwyd hi ac y mae yn aros