Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ucheldir i fyny i gymydogaethau godre yr Andes, ac felly heibio pob dyffryn oddiyma i fyny, yna fe gydir ein dyffryn ni a'r holl ddyffrynoedd ereill a'u gilydd, a Phorth Madryn fydd y porthladd, a Rawson y brifddinas, ond pe dygwyddai i'r ffordd haiarn gychwyn o ryw bortbladd arall i fyny i'r Andes, a chydio y dyffrynoedd yno a'u gilydd, ac a'r portbladd y rhedai y ffordd haiarn iddo, yna gadawyd ein dyffryn ni am lawer blwyddyn faith ar ei ben ei hun. Yr ydym yn hyderu yn fawr mai y ffordd flaenaf a nodasom a gymerir, ac yna y mae yn ddiameu genym fod llwyddiant mawr yn aros ein dyffryn a'r dyffrynoedd cylchynol. Y mae yn y diriogaeth, fel yr ydys wedi awgrymu yn barod, amryw ddyffrynoedd i'r De ac i'r Gorllewin, ond yn hollol weigion hyd yn hyn. Y mae i'r De oddiwrthym yn y pellder oddeutu can' milldir lyn mawr a elwir Colwapi, ac ar lanau hwn y mae tiroedd gwastad eang iawn, ac y mae yn ein mysg amryw ar hyn o bryd yn selog dros fyned a dechreu sefydliad yn y lle hwn.

Sefydliad Cwm Hyfryd.— Y mae genym, fel yr ydym eisoes wedi coffhau, sefydliad bychan yn y lle uchod yn ngodre yr Andes. Fe ddywedir mai lle prydferth ydyw y cwm hwn, fel y mae ei enw yn arwyddo; lle amrywiog o wastadeddau, a llethrau, a mynyddoedd, yn cael ei brydferthu â cqoedwigoedd, nentydd, ffrydiau, ffynonau, ac amryw ffrwythau pêr yn tyfu yn wyllt yn y lle. Mae yno erwau lawer yn nghyd o fefys yn tyfu, ac amryw fathau o gyrens, ac heb fod yn mhell berllanau mawrion o goed afalau. Nid oes angen dyfrhau y tir hwn fel ar ddyffryn y Camwy, am fod yma fwy o wlaw yn disgyn. Y mae y Sefydlwyr, y rhai a rifant o 70 i 80 o eneidiau erbyn hyn, yn gallu codi pob peth at eu gwasanaeth yno. Mantais fawr yn perthyn i'r Sefydliad hwn ydyw, fod yno gyflawnder o goed yn gyfleus, a choedwigoedd mawrion mynydd yr Andes heb fod yn mhell, lle y mae y pine, y ffawydd, a'r bedw mewn cyflawnder. Mae y Sefydliad hwn ar bwys y gweithiau aur a'r arian, a diamheu fod daear y Sefydliad yn llawn mwnau, ond nad ydynt eto wedi gwneud digon o brawf. Y mae y Sefydliad hwn yn agosi 300 milldir o borthladd y Camwy; a thrwy nad oes eto ffordd haiarn wedi ei hagor hyd yno, y mae y Sefydlwyr yn gorfod boddloni ar godi cnydau yn unig at eu