Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pen. III.—PAROTOI MINTAI A LLONG I FYNED ALLAN.

Yr oedd areithiau Mr. Edwin C. Roberts wedi bod yn foddion i greu ysbrydiaeth wladfaol yn bur gyffredinol trwy Gymru, ond peth arall hollol oedd cael pobl yn barod i dori i fyny eu cartrefleoedd, a gwneud eu hunain yn barod i gychwyn i fordaith o agos i saith mil o filldiroedd, i sefydlu gwlad newydd, mewn man nad oedd yr un dyn gwyn o fewn tua dau can' milldir iddo, a dim ond môr yn ffordd rhyngddynt. Yn ystod y flwyddyn 1864, y mae Mr. Lewis Jones yn teithio De a Gogledd Cymru i areithio ar Patagonia, ac yn mynegu yr hyn a welodd ac a wnaeth. Y mae Mr. H. Hughes (Cadfan Gwynedd) yn cyhoeddi math o Lawlyfr bychan ar Patagonia, hefyd y Parch. M. D. Jones yn cyhoeddi llyfryn bychan ar Ymfudiaeth, ac y mae y naill a'r llall yn cael eu gwasgaru trwy yr ardaloedd gweithfaol yn gyffredinol. Y mae y Parch. M. D. Jones yntau, mor bell ag y mae ei amser fel athraw yn caniatau iddo, yn areithio ac yn cynllunio tuag at godi mintai i fyned allan. Yr oedd y teithio a'r areithio hyn yn golygu costau mawrion, a'r cwbl yn cael ei ddwyn gan y Gymdeithas Ymfudol trwy y pwyllgor yn Lerpwl. Ond yr oedd y peth pwysicaf o r cwbl eto ar ol, mor bell ag yr oedd arian yn angenrheidiol, sef cael llong i fyned a'r fintai allan i Patagonia. Yr oedd Patagonia yr adeg hon, yn gydmarol ddyeithr hyd yn nod i forwyr. Y mae yn wir fod llongau yn pasio Patagonia i fyned i Chili a Chalifornia tu allan i Cape Horn,—ond nid oedd un llong fasnachol wedi bod i fewn yn yr afon Camwy, nac ychwaith yn Porth Madryn, felly nid peth hawdd oedd cael Captain yn foddlon i fentro ei long i le mor anadnabyddus. Peth arall, yr oedd angen llawer o arian i dalu y llong log angenrheidiol. Gan mai dynion o amgylchiadau cyffredin oedd aelodau a phwyllgor y Gymdeithas Wladfaol bron i gyd, fe syrthiodd y baich. hwn bron i gyd ar y Parch. M. D. Jones, Bala, yr hwn oedd, trwy gyfoeth ei wraig, mewn ffordd i gael arian ac ymddiriedaeth. Cytunwyd am long o'r enw "Horton Castle," i gychwyn allan gyda'r ymfudwyr yn Ebrill, 1865. Yr oeddynt wedi cael enwau tua dau cant i fyned allan gyda'r llong hon. Ond pan oedd y parotoadau yn cael