Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tuag at gynwys 153 o ymfudwyr, megys gwelyau, byrddau, meinciau, cypbyrddau, ac ystafelloedd at gadw yr ymborth. Yr oedd y pwyllgor yn gyfrifol hefyd i roddi ar y bwrdd ddigon o ymborth a dwfr am fordaith o chwech mis, am fod y fordaith a'r porthladd mor anadnabyddus. Prynwyd hefyd fywydfad cryf i fod at wasanaeth y Gwladfawyr. Ar ol glanio, costiodd llogiad y llong, a'i gosod hi i fyny yn briodol mewn dodrefn ac ymborth tua £2,500, a disgynodd y baich hwn bron yn gyfangwbl ar y Parch. M. D. Jones, Bala, mewn gofal ac arian. Wedi cytuno am y llong, yr oedd yn rhaid cael rhywun neu rywrai i fyned allan i Buenos Ayres, ac oddiyno i'r Camwy neu Borth Madryn, i wneud darpariadau ar gyfer yr ymfudwyr. Penderfynwyd ar y Meistri Lewis Jones, Lerpwl, ac Edwin C. Roberts, o Wisconsin, yr hwn oedd yn aros yn awr yn Wigan. Hwn yw yr Edwin C. Roberts ag y cyfeiriwyd ato o'r blaen yn nglyn a'r symudiad Gwladfaol yn America, ac wedi hyny yn Nghymru. Y pwnc yn awr oedd cael yr ymfudwyr yn barod. Yr oeddys wedi bwriadu i ran luosocaf o'r ymfudwyr i dalu £12 o arian cludiad am bob un mewn oed, a haner hyny dros bob un o dan ddeuddeg oed hyd ddwy flwydd, ond erbyn cael gwybodaeth fanwl, cafwyd allan mai nifer fechan iawn oedd yn alluog i dalu eu cludiad yn llawn, a nifer fechan drachefn yn alluog i dalu rhan o'u cludiad —y rhan luosocaf yn analluog i dalu dim. Ond yr oedd y Parch. M. D. Jones, Bala, a'r pwyllgor mor benderfynol, fel nad oedd dim a'u digalonai i roddi cychwyniad i fudiad oedd eisioes wedi costio cymaint o feddwl, llafur, ac arian iddynt. Fel hyn gwel y darllenydd mai dynion o weithwyr tlodion gan mwyaf oedd y fintai gyntaf hon a aeth allan i ffurfio Gwladfa Gymreig yn Patagonia. Yr oedd y pwyllgor wedi hysbysu fod yn rhaid i bob un ofalu am wely llong, a dillad gwely, a llestri o bob math ag oedd eu hangen ar y fordaith, heblaw fod i bob un ddarparu cymaint ag oedd yn ei allu ar gyfer dechreu byw mewn gwlad newydd—gwlad lle nad oedd dim i'w gael heb fyned dros 170 o filldiroedd o fôr i'w gyrchu. Tua dechreu Mai y mae y rhan luosocaf o'r ymfudwyr yn Lerpwl, ond nid yw y llong yn agos yn barod, a chan fod y bobl wedi gwario eu harian i brynu pethau angenrheidiol