Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o wartheg gwylltion, ond y mae yn ymddangos i'r Indiaid glywed rhyw sibrwd am anturiaeth y dyn hwn, ac iddynt ddyfod i lawr a hel a gyru o'u blaen i'r Andes bron yr oll o honynt, cynifer, with reswm, aga allesent gael gafael arnynt, a llwyddo i'w gyru i'r coedwigoedd. Dywed yr hanes mai rhyw haner dwsin a welodd y boneddwr hwn a'i weision o gwbl. Yr oeddynt wedi cloddio y ffos y cyfeiriwyd ati, ac wedi taflu y pridd i'r ochr mewn, a phan fyddai y llanw i fyny, byddai y ffos yn llawn o ddwfr er dyogelwch, am fod chwedl ar led nad oedd Indiaid Patagonia byth yn croesi dwfir i ymosod.

Pan aethom ni yno yn mhen y deuddeg mlynedd, yr oedd yno ddau neu dri o fythynod, a ffwrn o briddfeini yn aros. Yr oedd y tai bychain hyn wedi eu gwneud o goed a herg, a llawer un o honynt wedi ei wneuthur o briddfeini wedi eu llosgi. Dywedir i'r bobl hyn ymrafaelio a'u gilydd a suddo eu llong yn yr afon, gweddillion yr hon oedd yno pan aethom ni yno, ac iddynt fyned ymaith dros y tir i Patagones. Nis gallaf dyngu i wirionedd manwl yr hanes uchod, ond mae yn sicr fod yna gnewyllyn o ffeithiau iddo. Beth bynag, ar yr ysmotyn hwn y dechreuwyd adeiladu, ac y mae o fewn terfynau ein Prif Ddinas heddyw. Dyma ni yn awr oll gyda'n gilydd unwaith eto. Yr oedd y dynion ieuainc, a'r penau teuluoedd, wedi bod yn bysur yn adeiladu bythod i fyw ynddynt yn ac oddeutu yr Hen Amddiffynfa, cyn i'r gwragedd a'r plant ddyfod trosodd o Porth Madryn, Yr oedd rhai o'r bythed hyn wedi eu gwneud o goed wedi eu dwbio a chlai; ereill wedi tori ystafell yn ochr clawdd ffos yr Hen Amddiffypfa, pob un yn dyfeisio pa fodd i wneud ei dy gyflymaf, a chyda lleiaf o waith. Yr oeddid wedi adeiladu math o ystordy yma hefyd i gadw y gwenith, y blawd, a'r nwyddau gwahanol oeddid wedi eu dwyn o Buenos Ayres, fel moddion lluniaeth. Yr oedd rhai o'r ymfudwyr wedi dod a swm da o ddefnydd ymborth i'w canlyn o Lerpwl, Yr oedd genym ddwy felin flawd i'w gweithio a llaw neu gyda cheffyl, wedi eu pwrcasu cyn gadael Cymru, a gosodwyd y rhai hyny i fyny yn yr Hen Amddiffynfe, er bod yn gyfleus i bob un fel eu gilydd. Erbyn hyn yr oeddym yn teimlo yn bur gysurus, rhywbeth tebyg i ddynion fu mewn ystorm, a