Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a Galatte i'r rhai a adnabyddid fel y Tuweltchiaid, neu Indiaid y De. Yr oedd genym erbyn hyn o gant i gant a haner o Indiaid cydrhwng gwragedd a phlant yn ein mysg, felly wedi ein cau i fyny, ac yn hollol ddiamddiffyn, trwy fod y môr o un tu i ni, a'r ddau lwyth Indiaidd, un o bob tu i'r afon, rhyngom a'r wlad. Byddent yn ymweled a'n tai bob dydd, ac yn begio bwyd, yn ac treio gwneud maanach a ni trwy gyfnewid math o wrthbanau breision o'u gwaith eu hunain, amryw fathau o grwyn, pluf estrysod, ac weithiau yn cynyg ceffylau, cesig, ac offer marchogaeth, megys cyfrwyau o'u gwaith eu hunain, ac weithiau y rhai Yspaenig. Yr oeddynt wedi arfer marchnata a'r Yspaeniaid yn Patagones, ac mewn lle i'r de a elwir Santa Cruz, ac yr oedd llawer o'r dynion yn medru ychydig o Yspaenaeg. Yr oeddynt wedi arfer cael diodydd meddwol gan yr Yspaeniaid uchod, ac fel ereill wedi cael blas ar ddiodydd poethion, a'r swyn sydd mewn meddwdod, un o'r pethau cyntaf a ofynent am dano oedd Connac neu frandi, canys dyna yr enw a roddent hwy ar bob math o wirodydd poethion. Nid oedd yn y sefydliad ar y pryd ond tair potelaid o gin ac ychydig frandi a gedwid yn y stor fel meddyginiaeth. Y mae llawer wedi bod yn beio y Gwladfawyr am ddechrau rhoi gwirodydd i'r Indiaid, heb wybod dim am yr amgylchiadau. Nid ydym mewn un modd yn cyfiawnhau ein gwaith mewn blynyddoedd wed'yn yn rhoi gwirodydd iddynt, ond ar y cychwyn, yn enwedig y tro cyntaf y daethant i lawr, yr oedd yn anhawdd iawn eu gwrthod o unrhyw beth a ofynent, gan ein bod mewn tipyn o ofn, ac yn hollol ddiamddiffyn, ac yn awyddus iawn o'u cadw yn gyfeillion. Er boddio cywreinrwydd y darllenydd, caniataer i mi ddweyd, mai yn meddiant yr ysgrifenydd yr oedd y tair potelaid gin, wedi eu gadael iddo gan y tir fesurydd, a rhoddodd hwynt yn rhodd ac yn rhad i'r penaeth Chiqi Chau, ond teg yw dweyd ei fod wedi cael ychydig o'r stor cyn hyny. Wedi iddynt yfed cydrhyngddynt y gwirod hwn, ac nid oedd ond fel dim cydrhyngddynt, daeth y penaeth a chaseg dlos iawn i'r ysgrifenydd yn bresant, yn gydnabyddiaeth, mae'n debyg, an y gwirod. Dyna y cwbl o wiredydd a gawsant y flwyddyn hon, am mai dyna yr oll oedd yn y lle; ond pan welwyd eu bod mor daer