Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN. XI.-METHIANT Y CYNHAUAF.

Aeth Awst, Medi, a Hydref heibio heb nemawr ddim gwlaw, ac erbyn canol Tachwedd yr oedd y tywydd yn boeth ac yn ddeifiol, fel y mae yn arferol a bod yr adeg hon, ac felly erbyn diwedd y mis hwn yr oedd y rhan luosocaf o'r llanerchau gwenith wedi gwywo a chrino, oddieithr darnau bychain oedd mewn pantau, yn derbyn llaithder o'r afon, neu ynte y darnau hyny oeddynt yn ddigon agos i'r môr i'r llanw wthio dwfr yr afon yn ol, nes llifo drostynt; daeth y rhai hyn i addfedrwydd, ond yn gnydau teneuon ar y goreu. Parodd hyn ddigalondid cyffredinol. Yr oedd hyn diwedd Tachwedd 1866. Yr oeddys, fel yr awgrymwyd o'r blaen, wedi hau ar y darnau, a'r unig ddarnau tir o ran gweryd oedd yn debygol o ddwyn ffrwyth, am mai ar y llanerchau hyn yr oedd tyfiant naturiol, ac wrth weled fod yr hinsawdd yn rhy sych i gynyrchu cnydau ar y tir hwn, teimlai pawb yn ddigalon ac anobeithiol iawn. Galwyd cyfarfod o'r holl sefydlwyr yn y pentref, neu Drefrawson. Wedi rhoi cyfle i bob tyddynwr ddweyd ei brofiad yn nglyn a'r cnwd, a'i farn ar y tir, gwelid yn fuan mai yr argyhoeddiad oedd, nad oedd y rhanbarth hwn yr oeddym wedi sefydlu arno yn gymwys i neb feddwl byw arno, am, fel y bernid y pryd hwnw, nad oedd yma ddigon o dir cynyrchiol hyd yn nod pe buasai yn cael digon o wlaw. Ond beth oedd i'w wneud? A oeddym i ymadael a'r lle heb unrhyw brawf nac ymchwiliad pellach? Penderfynwyd ein bod i benodi ar nifer o'r amaethwyr mwyaf profiadol i fyned i fyny i ddilyn yr afon mor belled ag y barnent yn angenrheidiol, i edrych allan am dir gwell a ffrwythlonach. Gwnaeth y dynion hyn eu hunain yn barod yn ddioed, ac ymaith a hwynt, ac wedi teithio i fyny i ganlyn yr afon am tua chan' milldir, fel y tybient y pryd hwnw, daethant at greigiau mawrion yn cyraedd hyd at yr afon, lle nad oedd un dyffryn o gwbl, na lle i basio ar geffylau i fyned yn uwch i fyny. Gadawsant eu ceffylau yn y pant ar lan yr afon, a dringasant ar eu traed i ben y creigiau hyn, er cael gweled a oedd yno wlad yn agor yn uwch i fyny, ond ni welent ddim ond creigiau yn mhob man, a dychwelasant