Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i wneud prawf ychwanegol o'r Camwy, cynygiad llywydd Santa Fe i'n symud i Bajaro Blanco, a chynygiad Augirie a Murga i'n symud i'w tiroedd hwy yn Patagones. Gall y darllenydd feddwl fod y bobl wedi cael eu taflu i sefyllfa anfanteisiol iawn i farnu yn briodol beth oedd oreu iddynt wneud—wedi eu taflu bron yn gyfangwbl at ewyllys y siaradwr fedrai osod pethau allan yn y wedd fwyaf boddhaus, ac felly yn gywir yr oedd, am nad oeddynt yn gwybod y nesaf peth i ddim am Bajaro Blanco, na Phatagones. Yr unig beth yr oeddynt yn sicr o hono oedd cael eu cadw ag ymborth am flwyddyn yn y Camwy, yn ol cynygiad Dr. Rawson. Wedi cael amryw gyfarfodydd brwd iawn, deuwyd i arwyddo y deisebau, a'r canlyniad oedd,—tri theulu am aros yn y Camwy, tri theulu am fyned i Patagones, a'r gweddill am fyned i Bajaro Blanco, Santa Fe. Gwelir fod corff y sefydlwyr am fyned i Santa Fe, ac felly yn gofyn am i'r llywodraeth anfon llong i lawr i Porth Madryn i'w cludo i Buenos Ayres, ac oddiyno i Bajaro Blanco. Yn awr yr oedd y tri dirprwywr a anfonasid i lawr i fyned yn ol gyda chanlyniad pleidleisiad y gwladfawyr, a Mr Lee yntau gyda dau deulu yn dychwelyd i Patagones, ond methodd y trydydd teulu a bod yn barod, ac y mae hwnw yn y Wladfa hyd heddyw. Yr oedd y bobl erbyn hyn yn prysur symud o'r. Camwy i Borth Madryn, er mwyn bod yn gyfleus i long i'w cymeryd ymaith, am nad allasai long fawr ddyfod i mewn i'r afon, Wedi wyth neu naw diwrnod o fordaith arw ac ystormus iawn, cyrhaeddasom yr afon Negro—y dirprwywyr cofier, gan fod yn rhaid i ni fyned i Buenos Ayres gyda'n tystiolaeth cyn y buasid yn anfon llong i gyrchu y fintai. Pan oeddym yn hwylio yn araf i fyny yr afon Negro, o herwydd fod ein llong wedi ei hysigo yn yr ystorm, beth a welem yn dyfod i fyny yn gyflym ar ein holau, ond ein llong fechan o Buenos Ayres, gyda Mr Lewis Jones, a boneddwr arall o'r enw John Griffith, Hendrefeinws, ger Pwllheli, yr hwn oedd Wladfawr selog er ys blynyddoedd, ac wedi bod yn Buenos Ayres yn cadw defaid am rai blynyddoedd. Yr oedd Mr Lewis Jones wedi llwyddo i gael gan y Cadben Neagle i fentro y llong fach i'r mor eto, er iddi gael ei chondemnio y dydd o'r blaen, am ei fod ef, Mr L. Jones, mor awyddus