Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad. Dysgir y plentyn. i fyned ar ei liniau wrth ochr ei wely, ac y mae hyny yn d'od yn ail natur iddo pan gerbron ei wely; dysgir pobl i ofyn bendith ar eu bwyd wrth y bwrdd, ac y mae hyny yn d'od fel ail natur iddynt pan welant yr ymborth ar y bwrdd; ac y mae llawer wedi eu harfer gyda'r ddyledswydd deuluaidd ar yr aelwyd, nes teimlo mor naturiol i fyned trwy y gwasanaeth hwnw, a rhyw orchwyl arall beunyddiol o'u heiddo. Y mae myned i'r capel dair gwaith y Sul hefyd yn d'od yn fath o angenrhaid i lawer. Ond tynwch chwi yr allanolion cylchynol hyn oddiwrthynt, fe'u teflir fel oddiar eu llwybr, ac ni wyddant yn iawn pa fodd i ymddwyn. Rhoddwch y dyn i gysgu yn yr awyr agored ar y ddaear, neu ar fatras ar y llawr, ac anghofia ddweyd ei bader; rhoddwch ef i fwyta ei bryd bwyd ar ei arffed, ac anghofia ofyn bendith; a gadewch iddo fyw mewn bwth heb na bwrdd na chader, ni fydd yn awyddus iawn i gadw dyledswydd deuluaidd; a rhoddwch ef i addoli y Sul mewn rhyw yagubor o le, fe dyn lawer oddiwrth ei sel a'i grefyddolder. Cafodd y Wladfa ar ei chychwyniad deimlo yn fawr oddiwrth ddylanwad amgylchiadau newyddion fel hyn yn nglun a defosiyaau crefyddol, ac wrth gollu y defosiwn yn colli llywodraeth ddysgybliol ac ataliol crefydd arnynt. Ond er yr holl anfanteision uchod, nid aeth cyflawniadau crefyddol i lawr yn hollol yn ein mysg, er eu bod ar adegau fel llin yn mygu."

Ymadawodd Mr Lewis Humphreys a ni yn mhen y flwyddyn, am fod rhyw anhwyldeb yn ei wddf, ac yn effeithio ar ei lais; daeth yn ol i Gymru, ac yno yr arhosodd hyd y flwyddyn 1887, pryd y dychwelodd ef a'i briod i'r Wladfa. Yr oedd Mr Robert Meirion Williams hefyd wedi ymadael cyn pen y ddwy flynedd, ac wedi d'od i Gymru, yr hwn sydd wedi marw er's blynyddoedd. Fel hyn gwelir fod y sefydliad wedi ei adael heb ond un pregethwr, sef ysgrifenydd yr hanes hwn, a gadawyd ef ei hunan hyd y flwyddyn 1874, pryd y daeth dau weinidog ereill yma, fel y cawn gyfeirio pan ddeuwn at y cyfnod hwnw. Nid oedd y gweinidog yn cael ei dalu am ei wasanaeth yr adeg hon, ond yn gweithio a'i ddwylaw fel pawb ereill tuag at ei fywioliaeth, ac yn cymeryd rhan yn holl weithrediadau y Sefydliad, yn gymdeithasol, bydol, gwladol, a chrefyddol, fel rhyw Wladfawr arall.