Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN. XIV.—YR AIL GYFNOD, SEF O AWST 1867 HYD AWST 1874.

Dyma ni unwaith eto ar ddyffryn y Camwy, yn dechreu parotoi ychydig o dir i hau ynddo, er mwyn myned drwy ryw ffurf o wneud prawf ychwanegol o'r lle. Yr ydym yn dweyd trwy ffurf, am nad oedd yn brawf gwirioneddol, am un peth—ei bod yn rhy ddiweddar i hau; a pheth arall, am nad oedd gan neh ffydd yn y lle, ac felly ddim yn teimlo dyddordeb i wneud dim yn iawn a thrwyadl. Cyfarfod â llythyren amod y llywodraeth i roi cynaliaeth am y flwyddyn oedd amcan uwchaf pob un, a phawb yn bwriadu symud i Santa Fe yn gyrar y flwyddyn ddyfodol. Fel y gellid dysgwyl, ni ddaeth nemawr gynyrch o'r hyn a hauwyd y flwyddyn hon, am y rhesymau a nodasom ucbod. Bu yr Indiaid yn ein plith yn hir iawn y flwyddyn hon, a buont yn gynorthwy mawr ni mewn ffordd o gigfwyd a cheffylau, y rhai a brynem ganddynt yn gyfnewid am fara a phethau eraill. Trwy fod rhai wedi lladd eu gwartheg, ac ereill wedi colli rhai yn helynt y symudiad, yr oedd cryn brinder llaeth ac ymenyn yn ein plith yr adeg hon. Trwy fod cryn amser yn angenrheidiol i anfon i Buenos Ayres, ac i'r llywodraeth benderfynu, ac yna edrych am long a'i pharotoi i ddyfod i lawr gydag ymborth erbyn Medi a Hydref y flwyddyn hon, yr oedd yr ymborth wedi myned yn brin iawn, a rhai yn dyoddef eisieu, a bron pawb wedi rhedeg allan o fara, oddieithr ambell i un oedd dipyn yn humangar, ag oedd yn gallu cadw bara a defnydd bara yn guddiedig oddiwrth y lluaws. Yr oedd yr ymborth wedi rhedeg allan yn gynt nag y buasai, pe na buasid wedi bod mor hael arno i'r Indiaid yn gyfnewid am bethau ereill, yn yr hyder y daethai cyflenwad atom o Buenos Aires yn brydlon. Nid oedd dim i'w wneud ond i'r dynion ieuainc, a llawer o benau teuluoedd, fyned allan i'r paith, i fanau cyfleus i ddala helwriaeth gyda'u cwn a'u ceffylau, a byw yno yn gyfangwbl, ond fod ganddynt negeswyr yn cario cig i'r teuluoedd oedd ar y dyffryn. Yr oedd rhai wedi aros gyda'u teuluoedd, ae yn treio byw ar saethu hwyaid a gwyddau gwylltion. Er i'r rhan luosocaf o'r Sefydlwyr gael digon o ryw fath o ymborth, cigfwyd yn benaf, eto, y mae yn ddiamheu i rai dynion a'u teuluoedd ddyoddef