Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dim ond iddo gael lleithder eginant, a thyfant yn gnydau toreithiog. Yr oedd ar y dyffryn, a hyny ar y tyddynod oeddis wedi eu cymeryd, rai miloedd o erwau o dir fel hyn, ac wedi cael y prawf hwn arno, barnwyd y byddai yn well rhoi un prawf ar y lle eto drwy ddyfrhau y tir hwn cyn rhoddi y goreu iddo, ac ymadael. Felly anfonwyd hyn at y llywodraeth, a boddlonodd Dr Rawson estyn y cymhorth yn mhellach er mwyn gwneud y prawf hwn eto, ac yn Mai 1868, fel y nodwyd eisoes, anfonwyd i lawr hedyd, ymborth, a gwartheg, fel yr oedd pawb yn galonog i fyned yn mlaen i hau at y flwyddyn ganlynol.

—————————————

Gan mai ar y tir du, digroen, yr hauwyd y tymor hwn nid oedd yn gofyn cymaint o lafur ac amser, am nad oedd angen ond yn unig taflu yr had i'r ddaear, a'i lyfnu, ac yns tori ffosydd bychain o'r afon iddo i'w ddyfrhau pan byddai yr afon wedi codi yn ddigon ushel. Hauodd rhai y flwyddyn hon ar raddfa a ystyrid y pryd hwnw yn eang, ac hauodd pob un ryw gymaint. Cododd yr afon yn brydlon, a chafodd pawb ddwfr i'w wenith, ac yr oedd golwg ardderchog ar y cnydau yn mhob cyfeiriad, a daeth y cnydau i aeddfedrwydd yn gynar yn Ionawr 1869, am ein bod wedi gallu hau yn gynar. Pan yr oedd pawb wedi gorphen tori ei wenith, a'r rhan luosocaf wedi ei godi yn stycanau, ac ambell un wedi dechreu cario i'r ddas, daeth yn wlaw cyson am tua naw diwrnod, ond nid oedd yn wlaw trwm. Yr oedd yr afon wadi bod yn bur uchel trwy y tymor, ac wedi codi drachefn yn ystod y gwlaw hwn, nes yr oedd bron at ymylon y torlanau. Yr adeg hon, ar brydnawn Sul tua diwedd Ionawr, pan yr oedd y rhan luosocaf o'r sefydlwyr yn y capel, daeth yn ystorm o fellt a tharanau, ac yna wlaw bras mawr, fel pe buasai cwmwl wedi tori, nes yr oedd pob pant a fos wedi eu llanw o ddwfr, a'r llechweddi yn llifo fel nentydd y mynyddoedd, ae erbyn boreu dydd Llun, yr oedd yr afon wedi codi dros el cheulenydd, a bron yr oll o'r dyffryn wedi ei orchuddio â dwfr. Gan fod y dyffryn yn wastad, a'r tywydd yn dawel, ni chariwyd y cnydau ymaith gyda'r llif, ond gellid gweled y stycanau yn sefyll a'u penan allan o'r dwfr fel llwyni o frwyni, neu hesg mewn cors. Ond y Sul yn mhen yr wythnos wedi yr ystorm uchod, pan