Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XVI.-DIFFYG CYMUNDEB, AC YMWELIAD Y "CRACKER."

Rhaid i mi ofyn i'r darllenydd droi yn ol gyda mi i ddiwedd y flwyddyn 1870. Fel y cyfeiriwyd, galwodd y "Myfanwy" yma yn Mai, a daeth atom drachefn long o Buenos Ayres yn Mehefin gydag ymborth, ond wedi hyny nid oedd genym un addewid am un long i alw, ac yr oedd y gyfran olaf o'r hyn a addawsai y Llywodraeth i ni wedi dod gyda'r llong yn Mehefin, ond gan mai cynhauaf rhanol oedd wedi bod y flwyddyn ddiweddaf, a'r rhagolygon y flwyddyn hon eto yn wael, yr oeddid yn teimlo yn bryderus am gymundeb a Buenos Ayres, neu a Patagones. Felly yn niwedd y flwyddyn hon, a dechreu 1871, gwnaeth y Meistri Lewis Jones, David Williams, America, fel y galwent ef, Edward Price, a dau forwr a ddiangasant o'r "Myfanwy," wneud cynyg ar fyned dros y tir i Patagones. Llwyddasant i gael gan Indiad cyfarwydd i fyned yn arweinydd iddynt, ond wedi teithio rhyw 150 o filidiroedd i fyny i'r gogledd orllewin, o herwydd rhyw reswm neu gilydd, nid oedd yr Indiad am barhau y siwrne, ac felly y gorfu iddynt droi yn ol. Ond er methu o honynt yn y cynyg hwn, eto nid oeddynt am roddi i fyny eu nod, sef cael ffordd dros y tir i Patagones. Penderfynasant wneud cynyg i fyned gyda glan y mor hyd yr afon Negro, ar lan yr hon y mae tref Patagones, neu Del Carmen. Trwy fod y tymhorau wedi bod mor sychion, a hithau yn awr yn ganol haf poeth, gwyddent nad oedd dim dwfr i'w gael ar y glanau, ac felly trefnasant i wneud peiriant byehan i groewi dwfr y mor. Yr oeddynt yn bedwar neu bump mewn nifer, a cheffyl gan bob un, ac felly yn gofyn cryn lawer o ddwfr. Beth bynag, cychwynasant, ond wedi teithio tua deuddydd o Porth Madryn gyda glan y mor, profodd eu peiriant yn annigonol i groewi digon o ddwr iddynt, ac wedi cryn ddyoddef syched, gorfu iddynt roi i fyny yr anturiaeth, a throi yn ol. Yn awr, dyma ni wedi ein cau i fyny heb un cymundeb a'r byd masnachol. Y llong ddiweddaf o Buenos Ayres oedd wedi ymweled a ni ydoedd yr un yn Mehefin 1869. Ond pan oedd y sefydliad bach unig ar y Camwy yn teimlo fod y byd mawr tuallan wedi ei anghofio, yr oedd rhai pobl dda o Saeson ac Yspaeniaid yn Buenos