Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyddogion o synwyr, dysg, a dynoliaeth ragorol. Dynion caredig iawn oedd y Cadlyw Dennistoun, Dr. Turnbull, a'r Is—lywydd Richards, a chasglasant adroddiad cyflawn a chywir iawn o'r sefydliad tra yn y lle. Gwnaeth Dr. Turnbull hefyd wasanaeth mawr i'r sefydliad trwy arolygu y gist feddygol oedd genym, a rhoddi ar y moddion physigol oedd ynddi enwau Seisnig yn lle yr enwau estronol oodd arnynt, a nodi arnynt hefyd at ba anhwylderau yr oeddynt wedi eu bwriadu. Bu y Cadlyw Dennistoun hefyd yn garedig iawn trwy roddi llawer iawn o wahanol fathau o ddefnyddiau ymborth o drysorfa y llong at wasanaeth y rhai mwyaf anghenus, a chaniataodd gludiad rhad i'r ddau foneddwr Lewis Jones a D. Williams, America, yn y llong i Monte Video. Yr oedd Mr. Jones eisieu ymweled a'r Llywodraeth unwaith eto ar ran y sefydliad, er cael ychydig gymorth mewn ymborth a hadyd am y flwyddyn ddyfodol, a cheisio eto am ryw foddion i ddal cymundeb rhwng y Wladfa a Buenos Ayres. Yr oedd Mr. David Williams am fyned i Buenos Ayres i gyfarfod nwyddau a ddysgwyliai o'r Unol Dalacthau—offer ac arfau amaethyddol yn benaf. Y flwyddyn hon yr oedd y Yellow Fever yn dost iawn yn Buenos Ayres, fel y gorfu i Mr. Jones a Mr. Williams aros yn hir yn Monte Video cyn bod yn alluog i wneud dim busnes yn Buenos Ayres. O'r diwedd, llwyddodd Mr Jones gael llong unwaith eto, a bu hon yn Patagones unwaith, a daeth a nifer o wartheg i lawr i'r boneddwr D. Williams, America. Wedi hyny trefnodd Mr. Lewis Jones iddi fyned am lwyth o Guano i rai o'r ynysoedd i'r de o'r Camwy, a dychwelodd i Buenos Ayres gyda'i llwyth i beidio a dychwelyd mwy, a methiant a cholled a fu yr anturiaeth hon i Mr. Lewis Jones, am i'r ty yr oedd mewn undeb ag ef yn nglyn a'r Guano dori i fyny, a symud o'r lle, fel erbyn i Mr. Lewis Jones fyned i fyny yn mhen tua blwyddyn, nid oedd yno i'w ran un ddimai o arian am y llwyth Guano. Y mae yn wir iddi fod yn fantais i'r Wladfa i ddod a chymorth y Llywodraeth i lawr, yn nghyd ag eiddo Mr. Williams, a dyma y rhodd olaf a dderbyniwyd gan y Llywodraeth hyd flwyddyn 1876, pryd y daeth i mewn tua 500 o ddyfudwyr bron ar unwaith.