Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd yr afon yn bur ffafriol, a chafodd amryw gnydau pur dda. Yr oedd yma ddau ddyn ieuanc pur anturiaethus wedi cytuno i fyw gyda eu gilydd, a chydweithio a'r naill fel y llall yn gyfartal yn y llafur a'r elw. Ar yr ochr ogleddol i'r afon yn unig yr oeddid hyd yn hyn wedi arfer a hau, ond y flwyddyn hon penderfynodd y ddau ddyn ieuanc hyn groesi yr afon, a thrin darn helaeth o dir ar yr ochr ddeheuol i'r afon, a chawsant gnwd toreithiog anghyffredin cnwd trymach nag yr oeddid wedi arfer ei gael ar yr ochr ogleddol, a'r cnwd hwn oedd y gwenith cyntaf o'r sefydliad i farchnad Buenos Ayres yn y flwyddyn 1873; ond gan ein bod yn bwriadu galw sylw yn mhellach yn mlaen at werthiad y gwenith hwn, gorphenwn hanes y cyfnod hwn yn y fan hon.

PEN XIX.—ADOLYGIAD AR YR WYTH MLYNEDD CYNTAF.

Y Dadblygiad Amaethyddol.—Fe wel y darllenydd mai araf iawn fu y dadblygiad hwn, ac mai trwy lawer o anffodion a helyntion y gallwyd cael rhyw fath o fywioliaeth, a hyny yn rhanol hyd y flwyddyn 1871, fel yr ydym wedi dangos yn barod. Aeth y tair blynedd gyntaf heibio cyn i ni allu codi cnwd o gwbl, hyny yw, ddim gwerth ei alw yn gnwd, ond yn niwedd y drydedd flwyddyn, cafwyd allan ddirgelwch yr aflwyddiant yn gystal ag allwedd y llwyddiant oedd i fod yn y dyfodol, trwy gael allan y posiblrwydd i godi cnydau trwy ddyfrio. Ond er cael allan y posiblrwydd hwn, eto cafwyd allan yn fuan nad oedd codiadau uchel yr afon i ddibynu arnynt fel pethau cyson a difwlch, ac eri ni dori ffosydd, nad oedd y rhai hyny yn ddigon dyfnion ar ambell i flwyddyn. Dichon fod son am y ffosydd hyn o'r afon i ddyfrhau y tir yn beth braidd anhawdd i'w ddeall gan y darllenydd sydd yn anghyfarwydd a dullwedd arwynebedd y wlad. Y mae rhai daearegwyr yn barnu fod Patagonia tan ddwfr y mor rhyw fil neu bymtheg cant o flynyddoedd yn ol. Bu y mor rhyw dro yn curo ei donau yn erbyn godrau yr Andes, ac wedi hyny gadawodd yn gyntaf yr uchdir a alwn ni y paith, a chyfyngodd ei hun i wastadedd is a alwa ni yn awr yn ddyffryn. Y mae yn debyg fod y dyffryn y pryd hwnw ya fath o borthladd mawr, yn rhedeg