Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i mewn i'r tir am tua haner can' milldir, a bob yn dipyn ciliodd y mor o hono yntau, ond fod y dyfroedd croew oedd yn llifo o'r Andes yn ymdaenu drosto wrth fyned i'r mor. Bob yn dipyn, llanwai y gwastadedd hwn, a chodai o radd i radd gan laid, trwy fod llanw y mor bob dydd yn gwthio y dwfr croew yn ol, ac felly yn atal y llaid a gerid ganddo rhag myned i'r mor, nes o'r diwedd codi y gwastadedd hwn y fath, fel yr oedd yn rhaid i ddyfroedd yr Andes dori gwely iddynt eu hunain yn nghanol y gwastadedd. Fel hyn, yn ol pob tebyg, y ffurfiwyd y dyffryn o bob tu i'r afon. Ond gan fod yr afon ar rai adegau yn uwch lawer nag ar adegau ereill, y mae yn amlwg, pan y byddai yn isel, fod yna draethau pur fawr o bobtu iddi, a thrwy fod dyfroedd yr afon yn llifo dros greigiau tywod ar eu ffordd o'r Andes, y mae yn amlwg mai tywod fyddai y gwaddod a adewid ar y traethau o bob tu iddi. Yn awr, pan fyddai yr afon yn isel, a gwynt cryf yn chwythu, fel y mae yn fynych yn y rhan hon o'r wlad, yna codid y tywod hyn gan y gwynt i'r tir o bob tu i'r afon yn eu tro yn ol cyfeiriad y gwynt ar y pryd, a chydag amser, codai tir ymylon yr afon o bob tu yn uwch na'r gweddill o'r dyffryn. Fel hyn yn raddol daeth ceulanau yr afon latheni yn uwch na'r dwfr yn yr afon pan y byddai yn isel. Trwy fod y tywod hyn yn cael eu chwythu yn barhaus i'r ceulenydd o bob tu, ac yna drachefn yn cael eu chwythu ychydig yn mhellach i mewn i'r tir, y mae y dyffryn o bob tu i'r afon yn uwch yn ymyl yr afon, ae yn llithrio yn is-is fel mae yn pellhau oddiwrth yr afon, nes o'r diwedd colli effaith y llwch tywodog hwn, ac oddiyno tuag at yr ucheldir bron yn hollol wastad. Fel hyn byddai y ffosydd a dorem yn rhai llatheni o ddyfnder yn hymyl yr afon, ac yn myned yn fasach-fasach fel y byddent yn pellhau oddiwrth yr afon, nes o'r diwedd na byddent ond ychydig fodfeddi o ddyfnder, ac yn y diwedd y dwfr yn rhedeg yn denau ar wyneb y tir. Y blynyddoedd cyntaf fel y cyfeiriwyd, codai yr afon yn uchel iawn ae yna ni thorwyd y ffosydd cyntaf yn ddyfnion, am y byddai yr afon yn codi bron i ben y ceulenau ac felly yn uwch o lawer na'r tir isel oedd i mewn yn y dyffryn Ond daethom wedi hyny i weled yr afon yn codi yn rhy fychan i ddod i mewn i'r ffosydd, ac erbyn hyny yr oedd yn rhy ddiweddar i ddyfnhau y ffosydd y tymor hwnw,