Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac fel'y collid y cnwd, a dysgwyd ni gan godiadau bychain yr afon i wneud y ffosydd mor isel ag y caniatai y tir i ni eu gwneud, a chael dwfr iddynt. Fel hyn buom am flwyddyn ar ol blwyddyn yn ngwyneb codiadau bychain yr afon yn dyfnhau ein ffosydd, ac ambell i waith, ond eithriad ydoedd hyn, byddai yr afon yn codi yn rhy fychan i ddyfod i mewn i'r ffosydd dyfnaf. Ond er yr holl siomedigaethau a'r methiantau, yr oeddem erbyn dechreu 1873 yn teimlo yn sicr fod ar ddyffryn y Camwy le i filoedd o bobl i gael bywioliaeth wrth amaethu gwenith a haidd, a phethau ereill. Yr angen mawr yn awr oedd cael digon o bobl fel ag i gynyrchu cyflawnder digonol i hawlio llong neu longau, i gludo y gwenith i farchnad Buenos Ayres, neu rhyw le arall.

Ein Sefyllfa Gymdeithasol y cyfnod hwn.—

Yn niwedd yr wyth mlynedd hyn, nid oedd ein nifer ond tua'r un faint ag oeddym pan laniasom gyntaf yn Mhorth Madryn, ac yn cynwys llai o ddynion mewn oed. Yr oedd hyn yn anfantais fawr, nid yn unig am lafur anianyddol, ond hefyd fel gallu amddiffynol, cymdeithasol, gwladol crefyddol, ac addysgol. Yr oeddym wedi codi capel bychan yn Nhrerawson er 1868—capel o briddfeini wedi eu sychu a'u caledu yn yr haul Yn Rawson yr oeddem yn byw yn y blynyddoedd cyntaf, er fod gan bob teulu fel rheol dy ar ei dyddyn, a byddai y pen—teulu yn byw yno o foreu Llun byd ddydd Sadwrn yn ystod y tymhorau hau, dyfrhau, a medi, ond yr oedd y gwragedd a'r plant yn byw yn y dref. Yr achos ein bod yn byw fel hyn gyda ein gilydd yn y dref oedd, mewn rhan rhag ofn gorlifiad, ac hefyd er mwyn bod yn fwy cryno pe dygwyddasai ymosodiad oddiwrth yr Indiaid. Yr oedd ein hanifeiliaid y pryd hwnw yn porfau yn gymysg lle y mynent, a byddai y gwartheg yn dod adref i'r pentref hwyr a boreu i'w godro. Bu ein gwaith yn byw gyda'n gilydd fel hyn yn fantais i'n bywyd cymdeithasol, pan y buasai byw yn wasgarog yn ei gwneud yn anhawdd iawn i ni gyfarfod yn Sabbothol ac wythnosol, yn enwedig lle yr oedd teulu mân. Yr oeddym yn cynal tri moddion bob Sabboth yn y capel bychan yn y dref, sef dwy bregeth ac Ysgol Sul, ac ambell gyfeillach yn yr wythnos, yn ol fel y byddai cyfleusdra. Coffa da am yr amseroedd hyn: llawer gwaith y bu yr Ysgrifenydd yn pregethu i