Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llong a chroesi y bar, a chwythwyd hi yn ol i'r traeth, a methwyd ei nofio y llanw dilynol; a chan i'r gwynt droi i'r mor, chwythwyd hi yn ddrylliau ar y bar. Nid oedd dim i'w wneud yn awr ond troi yn ol hyd nes y galwai rhyw long arall, yr hyn oedd hollol anwybyddus i ni ar y pryd. Fel y cyfeiriwyd yn barod, ar yr adeg ddigalon hor ymwelodd y "Rush" a ni yr ail waith, ac ar ei bwrdd, fel y crybwyllwyd eisioes, Mr. T. B. Phillips, o Brazil, yn dod i weled ansawdd y Camwy, ac wedi i'r boneddwr hwn gael tipyn o hamdden i edrych o'i ddeutu, aeth ef a'r Meistri Lewis Jones, David Williams (America), Captain Cox, a'r Yegrifenydd i fwrdd y "Rush" gyda'r bwriad i fyned i Buenos Ayres. oedd y llong hon i alw yn Patagones am lwyth o halen i fyned i Buenos Ayres. Wedi aros yn Patagones am fis i'r llong gael ei llwyth, dyma ni yn cychwyn i ffwrdd, ond wrth fyned i lawr yr afon Negro er myned allan i'r mor, tarawodd ein llong ar graig o glai caled, ac aeth yn ffast ar y bryn claiog, nes ei hysigo i raddau, a thrwy fod y "Patagones Steamer" yn myned allan or afon ar y pryd, gadawsom y llong hon eto, ac aethom gyda'r Steamer i Buenos Ayres. Wedi ymdroi am ryw bythefnos yn Buenos Ayres, aeth yr Ysgrifenydd ar fwrdd yr "S. S. Newton Lampert & Hall Co." am Lerpwl, ac ar Mai y 15fed, glaniasom yno. Aethum oddiyno ar fy union i'r Bala i weled y Parch. M. D. Jones, canys efe oedd y prif symudydd yn nglyn a'r Wladfa yn Nghymru ar y pryd, ac er iddo fod yn golledwr o dair neu bedair mil o bunau o herwydd y mudiad a'i gysylltiadau, eto ni phallodd ei sel, ac ni oerodd ei gariad at y mudiad, ac y mae yn parhau felly hyd y dydd hwn. Wedi ymgynghori a'r Parch. M. D. Jones, penderfynwyd fod i mi fyned trwy Dde a Gogledd i ddarlithio ar y Wladfa Gymreig yn Patagonia fel lle i ymfudo iddo. Y mae yn ddyledswydd rhoi yma ar gof a chadw i mi gael derbyniad caredig iawn i ddarlithio yn yr wythnos a phregethu ar y Sul yn mhob man y bum, trwy Dde a Gogledd. Wedi treulio tua thri mis yn Nghymru, aethum i'r Unol Dalacthau. Cefais alwad i fyned yno i Gymanfa Talaeth New York, ac hefyd i fyned trwy rai o'r talaethau i ddarlithio ar Patagonia. Yr oedd y Parch. D. S. Davies yn yr Unol Dalaethau yr adeg hon, ac yn dal yn selog iawn dros y