Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymfudol Cymreig. Wedi hyny, ail ymgymerodd a gweinidogaeth yn Manceinion am bedair blynedd, ac wedi hyny, er mwyn bod yn nes er cydweithio a'i gyfaill, y Parch. M. D. Jones, Bala, ymgymerodd a gweinidogaeth yn Rhuthin. Bu y rhan fwyaf o'r flwyddyn 1872-3 yn cymeryd lle y Parch. M. D. Jones fel athraw yn y Bala, pan oedd y boneddwr uchod yn yr Unol Dalaethau yn casglu tuag at dalu dyled Colegdy yr enwad yn y Bala. Daeth y Parch. D. Ll. Jones allan i'r Wladfa yn 1874 yn genhadwr anfonedig i wneud cynyg ar Gristioneiddio Indiaid Patagonia, ond yr oedd eu bywyd mor grwydrol, fel yr oedd yn anmbosibl gwneud dim a hwy, a chyn hir Symudodd y Llywodraeth Archentaidd hwy i wahanol ranau y Weriniaeth, er eu cael o dan warcheidiaeth, ac hefyd er cael y wlad yn agored i'w phoblogi a'i hamaethu. Y mae y boneddwr hwn wedi bod o ddefnydd mawr i'r Wladfa o adeg ei ddyfodiad hyd heddyw, ar gyfrif ei dalent a'i ddysg, yn gystal a'i sel a'i ymroddiad di-ildio o blaid llwyddiant y Wladfa. Y mae wedi dal y swydd o ynad yn y sefydliad bron yn ddi-fwlch o'r ail flwyddyn ei sefydliad yn y lle hyd heddyw, a chan ei fod o feddwl dadansoddol ac elfenol, bu yn alluog iawn i drin materion gwleidyddol a chyfreithiol yn ein plith. Nid oes na bwrdd na chyngor o bwys nad yw efe wedi eistedd ynddo er pan yn y lle, ac y mae y Wladfa yn fwy dyledus iddo nag i un person unigol arall am ei phrif ddadblygiadau yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a dymuniad y sefydlwyr yw iddo gael llawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei genedl mewn llwyddiant a hapusrwydd. Yr oedd yn y fintai hon hefyd amryw leygwyr a fu yn ychwanegiad mawr at ein llwyddiant amaethyddol a masnachol, cymdeithasol a chrefyddol, ac fel y rhai blaenaf, gallwn enwi D. D. Roberts, o'r Unol Dalaethau; E. Jones, Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru; E. Owen, Tyucha, ger Bala; John S. Williams, Hawen, Sir Aberteifi; a John W. Jones, o Tanygrisiau, Ffestiniog. Wrth enwi y personau uchod, nid ydym yn awgrymu nad oedd yn y fintai amryw ddynion gweithgar a medrus ereill, y rhai a fu yn gymorth mawr i ddadblygiad y lle mewn mwy nag un ystyr. Gwelir erbyn hyn i'r fintai hon fod nid yn unig yn ychwanegiad at nifer y llafurwyr, a bod hyny yn bwysig iawn, ond hefyd yn waed newydd, ac yn allu mawr yn nglyn a phob cylch o fywyd.