Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeth i ryw fath o derfyniad, a chafodd y dyfudwyr oll eu gosod ar eu tyddynod mesuredig. Nid oedd yr hen sefydlwyr hyd yn hyn wedi cael gweithredoedd ar eu tiroedd, er eu bod wedi sefydlu arnynt er's dros ddeng mlynedd, ond yr oedd y bwrdd tirol wedi ei awdurdodi i roi i'r oll o'r sefydlwyr oedd yn y lle Medi 1875, hawl-len i'w harwyddo, ac yna i'w danfon i fyny i Buenos Ayres er cael gweithred gyfreithiol. Nid gweithred fel un Prydain yw un y Weriniaeth Archentaidd, ond un lawer symlach, sef math o dystysgif, neu adlun (copi) o'r Cofrestriad Cenedlaethol a gedwir yn y Gofnodfa Genedlaethol, a rhoddir stamps y Llywodraeth arni, ac nid yw yn costio i'r sefydlwr ond dwy ddoler am y stamps. Cafwyd y gweithredoedd cyntaf hyn yn y flwyddyn 1877, a'r gweithredoedd ar ol hyny yn mhen y ddwy flynedd ar ol i'r sefydlwyr dderbyn yn hawl-len, yn unol ag amodau y Llywodraeth.

PENOD XXIII.—Y MINTEIOEDD NEWYDDION AR EU FFERMYDD

Erbyn Mai 1876, yr oedd y rhan luosocaf o'r teuluoedd wedi sefydlu ar eu ffermydd, neu or hyn leiaf wedi derbyn eu ffermydd. Yr oedd y dyffrynoedd isaf o bob tu i'r afon wedi eu meddianu, ac i fyny i haner y dyffryn uchaf yr ochr ogleddol, a phentref bychan yn dechreu cael ei ffurfio yn y Gaiman. Parodd i iselder anghyffredin yr afon y flwyddyn flaenorol i'r sefydlwyr fyned ati o ddifrif i dori ffosydd dyfnach i'r afon nag oeddynt hwy wedi arfer a gwneud o'r blaen. Yr oeddis yn awr yn talu mwy o sylw i ddisgyniad y tir trwy lefeliad cywir nag o'r blaen, ac felly yn cael allan fod modd cael dwfr i rai rhanau o'r dyffryn hyd yn nod pan fyddai yr afon yn isel iawn. Torwyd ffosydd anferth o fawr y flwyddyn hon. Yr oedd yma rai yn credu befyd fod modd gwneud argaeon ar yr afon fel ag i groni y dwfr, nes ei godi yn ddigon uchel i ddyfrhau bron unrhyw dir, pa mor uchel bynag y byddai ar y dyffryn. Er fod y minteioedd, y rhan luosccaf o honynt, wedi dewis manau eu preswylfed. eto yr oeddynt wedi ymffurtio yn fan gwmniau er tori y