Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffusydd mawrion y cyfeiriwyd atynt, y rhai oeddynt yn arwain y dwfr i ddarn mawr o dir gerllaw o bob tu ildynt, ac felly yr oedd y cwmniau hyn yn uno i hau darn mawr o dir, ac yna rhanu y cynyrch yn gyfartal. Yn y flwyddyn hon, 1876, gwnaeth un o'r cwmniau hyn, yn cynwys un-ar ddeg mewn rhif, gynyg ar wneud argae ar yr afon ychydig yn uwch i fyny na chanol y dyffryn isaf, rhyw 15 milldir o'r mor. Yr oeddynt eisioes wedi tori ffos ddofn a hir i gyraedd darn helaeth o dir, ac wedi trin a hau yn bur helaeth, ac wedi cael dwfr iddo, ac yna yn gweithio yn brysur gyda'r argae. Yr ydoedd yn ddiweddar iawn ar lawer y flwyddyn hon cyn cael v tir yn barod, a rhoddi yr had yn y ddaear, ac felly yn rhoi y dwfr cyntaf pan y dylasent roi yr ail, ac yr oeddym y peyd hwnw yr cael cnydau da o'r ddau ddwfr mewn tirwedd newyddion. Costiodd yr argae y soniwn am dani, rhwng y coed ar haiarn, oddentu mil o bunau y llafur, a phan yr oeddid bron a'i gorphen, a'r dwfr yn croni ac yn dechreu myned drosti, profodd y coed yn rhy weiniaid, a thorasant fel pibau pridd, ac ysgubwyd bron yr oll ymaith gyda'r llif. Bu y golled hon yn faich trwm, ac yn ysigdod ar y cwmni hwn am rai blynyddoedd; y mae yn wir iddynt gael ychydig o'r adfeilion-y gwaith coed, ond ni buont o ryw lawer o wasanaeth iddynt. Yn Chwefror 1877 y cafwyd cynhauaf yr hyn oeddid wedi ei hau mor ddiweddar y flwyddyn o'r blaen, a chan mai un dwfr oedd llawer o hono wedi ei gael, nid ydoedd ond cnwd ysgafn ac ail raddol o ran ei nodwedd. Erbyn canol y flwyddyn hon, er fod yma rai o'r cwmniau yn cadw yn mlaen i hau yn unol, yr oedd y rhan luosocaf o lawer wedi myned i hau pob un ar eu cyfrifoldeb ei bunan, ac yn byw ar eu tyddynod eu hunain. Bu y ddwy flynedd diweddaf hyn yn atalfa ac yn falldod ar fasnach y lle. Yr oedd genym, fel y sylwasom yn barod, ddau ystordy a dwy long, y rhai a berthynent i'r Meistri Rook Parry a J. M. Thomas a'i bartner, a thrwy fod y ddau dy hyn fel yn cystadlu a'u gilydd, yr oeddynt am y parotaf i roi nwyddau allan ar goel, yn y gobaith pan wellhai yr amgylchiadau, y celent eu harian. Yr oedd y coel diderfyn hwn y peri fod y nwyddaa yn ddrudion iawn, ac felly yn gyru y prynwr