Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithwyr i fod yn gymaint bedair gwaith, ac wedi hyny yn y blynyddoedd 1880 ac 1881, lluosogwyd ni i gryn raddau. Hefyd, yr oedd rhai o'r plant a aned yn y sefydliad yn y blynyddoedd cyntaf wedi tyfu erbyn hyn i fod yn llanciau cryfion. Fel yr oedd y gweithwyr yn cynyddu, cynyddai cyfalaf hefyd, ac felly dygid i mewn offer ac arfau amaethyddol. Am lawer blwyddyn yn nechreuad y Wladfa, nid oedd genym na throl, gwagen, na cherbyd ond rhyw droliau bychain anhylaw a wnaem ein hunain, ond yn y cyfnod hwn dygwyd i mewn droliau a gwageni Americanaidd, ac ereill yn cael eu gwneud yn y Wladfa. Yn y blynyddoedd o'r blaen, byddai bron bob teulu yn cadw melin law fechan yn ei dy taag at falu gwenith at wasanaeth ei deulu, er fod genym un felin o feini yn cael ei gweithio gyda cheffyl, ond yr oedd cymaint o amser yn myned i gludo y gwenith yn ol ac yn mlaen i'r felin hon, ac weithiau yn gorfod aros yn hir am eich tro, nes yr oedd yn ateb yn well i deuluoedd pell falu â'u dwylaw â'r felin fechan oedd yn y ty. Ond yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd melin yn gweithio wrth ager, ac un arall wrth wynt. Y dull y byddid yn malu y pryd hwnw oedd, malu y gwenith trwyddo fel y galwem ni ef, sef ei falu heb dynu y bran o hono, ac yna byddai gan y gwragedd yn eu tai ograu rhawn, neu o wifrau tuag at ogrynu y blawd, fel ag i dynu y bran o hono. Byddai y gograu hyn ya amrywio—rhai yn fanach, a rhai yn frasach, yn ol chwaeth y teulu yn nglyn a bara.

Masnach. Fel y gellid tybio, cynyddodd y fasnach fel yr oedd cynyrchu yn cynyddu, ac fel yr oedd y boblogaeth yn lluosogi. Yr ydym wedi gweled eisioes nad oedd yn y sefydliad yn 1873 a dechreu 1874 un fasnach reolaidd yn cael ei gwneud, nac un masnachdy o fewn y Wladfa, na chymundeb cyson rhyngom ag un lle tu allan i ni ein hunain, ond erbyn 1881 yr oedd genym wyth masnachdy heblaw y mân fasnachu a wnelid a'r Indiaid, er fod corff y fasnach Indiaidd wedi syrthio i ddwylaw perchenogion yr ystordai. Yr oedd genym hefyd ddwy long yn rhedeg yn gyson rhwng y Wladfa a Buenos Ayres heblaw llongau ereilla elwid i'n gwasanaeth pan y byddai galwad mawr am fyned a gwenith i'r farchnad. Yr oedd pethau yn bur ddrudion yn masnachdai y Wladfa y dyddiau hyny, a thrwy mai perchenogion yr ystordai oedd perchenogion