Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd gyntaf, yr oedd y sefydliad wadi bod mor unig a digymundeb, fel yr oedd yr yni cymdeithasol yn gystal a'r yni anianyddol wedi ei bylu a'i barlysio, ysbryd anturio wedi myned i gysgu, neb bron yn meddwl am ddim uwch ni chael tamaid o fwyd rhyw fodd, mewn rhyw fath o dy, a chyda rhyw fath o gelfi a dillad. Yr adeg hyny yr oeddid yn cael ein cigfwyd bron yn gyfangwbl trwy hela anifeiliad gwylltion ar y paith, ac yr oedd tuedd yn y gwaith hwn i greu yn y tô ieuane hoffder at fywyd rhydd a diwaith, ac felly yn magu segurdod mewn corff a meddwl. Ond wedi i'r minteioedd ddyfod i mewn, a'r boblogaeth gynyddu o 150 i 1,000 nau 1,500, a gwaith ddyfod yn rheidrwydd er cael gwenith i'w yru i'r farchnad, a'r anifeiliaid gynyddu yn filoedd mewn rhifedi, gadawyd yr hela bron yn llwyr, ond yn unig fel adloniant yn awr ac yn y man. Dygodd y cyfnewidiad hwn eto yr elfen o sefydlogrwydd i mewn, ac felly cymwyso y bobl i fod yn fwy meddylgar, ac felly yn well aelodau cymdeithas. Yn lle ymddifyru mewn helwriaeth, dygwyd i sylw yr ieuenctyd ddifyrwch uwch, yr ysgol gân a'r cwrdd llenyddol, ac ambell i eisteddfod, er nad oedd y Wladfa o'i chychwyniad wedi bod yn hollol amddifad o'r pethau hyn. Yr oeddym hefyd yn gwella yn ein hadeiladaeth fel yr oedd y bobl yn gwella yn eu hamgylchiadau, a gwisgent yn well, ac ymgystadleuent mewn harddu y ty a gwisgo. Y mae yn dda genyf ddweyd nad oedd moesau y sefydliad wedi myned yn isel iawn trwy y blynyddoedd geirwon hyn. Nid oedd yn ein mysg ond un plentyn Anghyfreithlon, er fod gyda ni rai cymeriadau amheus. Nid oedd meddwdod a cymladdau, na iaith isel wedi arfer ffynu yn eiu mysg. Ond erbyn hyn, yn lle un capel yn ngwaelod y sefydliad, yr oedd genym amryw leoedd i addoli. Yr oedd tua chwe' milldir at ei gilydd rhwng y cipelau hyn. Nid oedd yr adeiladau hyn ar y cyntaf ond rhai syml iawn, oud cyn hir adeiladwyd rhai llawer gwell ac eangach. Am y deng mlynedd cyntaf, nid oedd son am enwadaeth yn ein plith, ond pawb yn cyfarfod yn yr un lle, ac yn addoli yn yr un ffurf, a dim ond yr ysgrifenydd yn weinidog, ac yr oeddym bron ag anghofio i ba enwad y perthynai y naill a'r llall o honom. Ond wedi dyfodiad y minteioedd newyddion, newidiodd pethau yn fawr yn yr ystyr hwn. Yr oedd y minteioedd diweddaf mor llawn o