Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y gwaith. Yr oedd ganddynt, fel yr awgrymasom o'r blaen, fath o hen wely afon i fanteisio arno, ond fod darn mawr i'w dori o'r lle y cychwynid y ffos o'r afon hyd nes y deuai i'r wyneb yn yr hen wely hwn. Beth bynag, trwy weithio caled dan anfanteision mawr, llwyddasant i gael dwfri mewn i afael yr hen wely, ac o hono drachefn i afael ffosydd naturiol ereill oedd ganddynt yma a thraw, fel y cawsant gynhauaf gweddol yn 1882, ond ei fod dipyn yn ddiweddar. Pan ydoedd wedi myned dipyn yn bell yn mlaen yn y tymor, a gweled nad oedd yr afon yn codi, aethai rhai o'r dyffryn isaf i fyny i gynorthwyo y tyddynwyr hyn, er mwyn iddynt gael ychydig dir i hau a dwfr iddo trwy y gamlas y soniwn am dani. Wrth reswm, nid oedd y gwaith a wnaed y flwyddyn gyntaf ar y gamlas hon ond digon yn unig i gael dwfr i ranau o'r dyffryn uchaf hwn, ac felly ni roddwyd i fyny nes ei gwneud mewn ffordd i ddiwallu yr holl ddyffryn â dwfr. Gwaith mawr fu gwneud hyn, canys ar yr adeg hon nid oeddis wedi dwyn i mewn i'r sefydliad y march raw (horse-shovel), ac felly a phalau, ceibiau, a rhawiau y gwnaed yr holl waith. Yn ngwyneb i'r afon beidio a chodi yn 1881, ac mewn canlyniad, i'r dyffryn isaf golli ei gynhauaf, penderfynwyd gan amryw wneud cynyg eto i adgyweirio yr argae geryg yn y Gaiman. Yr oedd darn mawr o'r argae hon yn sefyll, ond y dwfr yn pasio bob ochr, fel nad oedd yn croni dim. Yr oeddid wedi dechreu ar yr argae hon er 1876-7. Rhoddwyd gwaith a chostau mawr arni eto, a thua chanol 1882 yr oeddis wedi llwyddo wneud rhyw fath o orpheniad arni. Yr oedd pobl y dyffryn isaf yr ochr ddeheuol hefyd wedi ymuno i agor camlas o'r argae bon i arwain dwfr i ranau helaeth o'r dyffryn, ond pan oedd y ffos hon tua'i haner, cododd yr afon yn sydyn a chyflym, a chan nad oedd digon o wadn i droed yr argae, tyllodd y dwfr ar ei ddisgyniad o dan ei throed, fel y llithrodd darn o'i chanol ymaith, nes ei gwneud bron yn hollol ddiwerth. Ond os dyfethodd codiad sydyn yr afon yr argae, yr oedd felly yn ddigon uchel i ddyfod i mewn i'r ffosydd oedd genym gyferbyn a'n tyddynod, ac felly cafwyd cynhauaf pur gyffredinol a llwyddianus yn Chwefror 1883, yn enwedig yn y dyffryn uchaf, lle yr oedd y gamlas erbyn hyn wedi ei pher-