Tudalen:Hen Gymeriadau Dolgellau.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gresyn na fuasai yr hen frawd yn cofio hyna cyn iddo ollwng yr englynion a gyfansoddodd yn erbyn Mr. Owen Rees.

SHANI ISAAC, neu, fel y gelwid hi yn gyffredin, Shenni'r Potiau. Nid oedd neb o fewn cylch ugain milldir i Ddolgellau nad oeddynt yn adnabod Shenni. Yr oedd yn un o lawer o drafaelwyr llestri anfonai yr hen William Jones y Potiau o gwmpas y wlad gyda'i basgedi i werthu llestri on commission. Dynes fechan, sharp ei thraed a'i thafod ydoedd, ac yr oedd yn hawdd ei digio a'i difyru. Hen ferch ydoedd, ac yn cadw ei hun yn lanwaith bob amser; ond,—ie ond, pan y byddai ar ei spree. Nis gallai ddioddef clywed canu, na band na chlychau, na byddai yn fyw drwyddi, ac yn anghofio ei hun yn y fan. Ar adegau o lawenydd yn y dre byddai Shenni ar flaen y dyrfa, ac wedi gwisgo ei hun a ribanau amryliw, fel recruiting sergeant, ac yn bloeddio hwre fel hogan bymtheg oed, neu hogyn ddylaswn ddweyd. Yr oedd ganddi ffon bob amser ar yr adegau yma, gan y byddai honno o fantais iddi i gadw ei hequilibrium, ac hefyd at gadw pawb at a respectable distance tra byddai hi yn actio y drum major i'r band. Yr oedd ei phresenoldeb ar adegau o rialtwch neu ddydd gwyl rhai o'r cymdeithasau yn cael edrych arno fel peth i'w ddisgwyl, ac os na byddai yr hen greadures yn cymeryd ei lle, byddem ni, y plant yn enwedig, yn ystyried y busnes yn fflat. Ond er ei holl asbri bu farw yn lled sydyn, a chladdwyd hi yn barchus gan Doli Jones, mam y diweddar Robert R. Jones, gwerthwr llestri.


SAMUEL JONES (Sam Cranci).—Bachgen mawr diniwed oedd Sam, yn droednoeth neu goesnoeth haf a gaeaf. Byddai a'i bwys ar rai o furiau y dref bob amser, —ac wrth basio, a ddarfu i chwi erioed sylwi ar y polish sydd ar rai o gornelau y dref yma, ac yn enwedig ar coping y Bont Fawr, mae yna filoedd o gotiau a throwsusau wedi eu treulio o dro i dro i godi y polish yna arnyn nhw. Er fod Sam yn hogyn mawr, yr oedd ei ddifyrrwch yng nghwmni plant. Ai ar ei dro i bob Band of Hope neu Gyfarfod Plant, a byddai yr hen greadures ei fam yn ceisio dysgu adnod iddo. Cofiaf yn dda weled Sam yng Nghyfarfod Plant Capel Wesla ryw noson canol yr wythnos, a James Williams y Ready Money yn holi yr adnodau; a dyma fo'n gofyn, "Samuel Jones, oes gyda chi adnod?" "Oes," gwaeddai Sam dros y lle, "Drwy chwys dy fara y bwytai dy wymad." Bu agos i Sam fod yn gyfrannog o hunanladdiad ei fam un tro. Yr oedd yr hen Gwen Jones wedi meddwl dychryn y Lawnt am unwaith er mwyn cael tipyn o gydymdeimlad; ac y mae hi yn penderfynu gwneyd cynnyg ar grogedigaeth fel y moddion sicraf i gyrraedd ei hamcan, ac y mae yn esbonio y peth i Samuel. Ac wedi rhoi cortyn am y trawst a dolen arno—ar y cortyn chwi sylwch—y mae yn dweyd wrth Sam, "Pan ro i gic i'r stôl rheda allan a gwaedda 'Mwrdwr' dros bob man." "O'r gore," meddai Sam; a dyma Gwen Jones a'i phen i'r ddolen a chic i'r stôl. Ond pan welodd Sam hi yn troi fel gŵydd ar y spit, gogleisiwyd mwy ar ei beirianau chwerthin fel y bu yn defnyddio y rhai hynny i'r fath raddau nes anghofio ei ran briodol yn y chware, ac yn gwaeddi, "Hei, hei, welwch chi mam yn troi." A gall y rhai sydd yn cofio sut y medrai Sam druan chwerthin, gredu fod y cymdogion yn rhedeg allan, ac fel y bu'r lwc aethant at y ty, a gwelsant Gweno yn troi a bron marw, a rywfodd torasant hi i lawr cyn iddi farw; ond druan o Gweno Jones, wrth iddi roi cic i'r stôl bu agos iddo roi cic i'r bwced hefyd.


ROBERT PUW Y GUIDE.—Dyma i chwi gymeriad gwir wreiddiol. Yr oedd ardymheredd gewynol neu gyhyrol yr hen frawd yma yn ddiarebol. Yr oedd ei dafod, ei draed, ei freichiau a'i gorff yn mynd. Sylwch fy mod yn pwysleisio ar y mynd.' Os bu ynni gewynol mewn carchar o eisiau mwy o scope, yng nghorff Robert Puw y guide yr oedd. Pen y Gader oedd ei gyrchle gyffredin. Cadwai ferlod a mulod o bob maint, llun, a thempar, a gelwid am ei wasanaeth i arwain boneddigion a boneddigesau i bob man o ddyddordeb yn y gymdogaeth, ond "Guide to Cader Idris" oedd yn anad unlle. Dywedais ei fod yn brysur. Yr oedd mor brysur fel yr oedd yn anhawdd i chwi ei ddeall yn siarad. Yr oedd rhyw lisp arno, fel ar y gore nid oedd yn hawdd ei ddeall. Ond ei gymysgfa o Gymraeg a Saesneg, a'r cyflymdra gyda pha un y byddai yn siarad, a'i gwnai bron yn anealladwy, ond i'r rhai cyfarwydd iawn. Yr oedd yn ddaearegwr a llysieuydd, ac yn adnabod rhedyn prinion y wlad yn