Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boneddigion hyn, anhawdd peidio cofio am Rowland Vychan, a Lewis Llwyd o Rhiwaedog, wedi bod yn ciniawa yn Rug, ac wrth fyned adref aeth y ddau i ymrafaelio. Ond bore dranoeth anfonodd Rowland Vychan ei was at Lewis Llwyd gyda'r penill hwn—

"Bir a chwrw Owen Salsbri
A wnaeth gynen ar Gyreni
Rhwng Lewis Llwyd, bendeflg mwynlan,
A'r hen gecryn Rowland Vychan,"

Yn y Cambrian Magazine am Hydref yr un flwyddyn hefyd ceir cofnodiad o'r hyn a hawlid fel arian cymhorth gan y llywodraeth yn y flwyddyn 1636 gan dirfeddianwyr yn y sir. Dyma y rhai a enwir o gwmwd Edeymion. Llangar—Humphrey Hughes; G. David ap Ieuan; J. Wynne; a J. ap Edward ap Tudur. Llandrillo-Morgan Lloyd; Humphrey Branas; Morris Jones; J. ap Ieuan; a Humphrey ap David. Corwen—W. Salesbury; J. Lloyd, Carog; J. Lloyd, Rhagad; L. ap Rees; J. ap Howell; T. Wynne; R. Lloyd. Gwyddelwern—Humphrey ap Ellis; D. Lloyd John; Thomas Wynne; a John ap Robert.

Mae yr Eglwys, yr hon a gysegrwyd i St. Trillo, yn dra hynafol. Cynwysa dŵr yn y pen gorllewinol, yn yr hwn unwaith y ceid awrlais, rhodd un Edward Jones yn 1772. Cafodd yr Eglwys hon ei hailadeiladu yn 1776, ei hadgyweirio yn 1852, a thrachefn yn 1877.

Gadawodd un Hugh Jones y Ddol £300, pedwaredd ran o lôg pa swm oeddynt i gael eu rhanu yn flynyddol rhwng tlodion y plwyf hwn.

Sonia yr hen Edward Llwyd am "Fedd y Santes ar làn Cadwst, lle kladdwyd Santes Trillo." Dywed hefyd, "Dafydd Rowland, hen grythwr, a arferai bop Sul y Pasc prydnawn vynd evo ieuencktyd y plwyf i ben craig Dinam i ranu yr ých gwyn. Yno y kane fo gaingc yr ychen banog a'r holl hen keinkie, y rhai a vuant varw gidag ef."-(Dyfynedig gan y Parch. D. R. Thomas' History, page 702).

Bu y lle hwn, fel llawer lle arall, yn hynod am ei ofergoeledd flynyddau yn ol Dyfynwn a ganlyn o Cymru Fu, fel y derbyn- iwyd yr hanes gan olygydd y llyfr dyddorol hwnw oddiwrth Mr. E. Evans, Cynwyd:—