Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sy'n egluro hyn. Y cyntaf a gyfeiria at ei ymddygiad efo ei gefnder Hywel Sele o Nannau:-"Ar ol hir gweryl fod rhwng y ddau, ceisiodd abad Cymer, gerllaw Dolgellau, eu cymodi, trwy eu dwyn at eu gilydd i gydymddyddan yn wladgarol; ac ymddangosai iddo lwyddo yn ei gais rhesymol. Aeth Owain, ar anogaeth yr abad, i lys Hywel gyda bwriad heddychol. Fel yr oedd y ddau yn rhodio yn y parc, Owain, with weled ewig yn pori gerllaw, a ddywedodd yn ddifeddwl drwg wrth Hywel, yr hwn a ystyrid y saethydd goreu yn ei oes, 'Dyna i chwi nôd ardderchog,' Yna tynodd Hywel yn ei fwa, gan gymeryd amo anelu yr ewig; ond trodd yn ddisyfyd a gollyngodd y saeth at galon Glyndwr, yr hwn, yn ffodus, a wisgai hurig ddur dan ei ddillad, ac am hyny ni chafodd niwaid. Ffyrnigodd Glyndwr gymaint oblegid y brad yma fel y rhwymodd Hywel yn y fan; ac wedi llosgi ei dŷ, cludodd yntau ymaith na wyddai nebi ba le. Ymdrechodd câr iddo, a'i enw Gruffydd ab Gwyn o'r Ganllwyd, yn Ardudwy, ei achub o law Glyndwr; ond gorchfygwyd yntau, ac wedi lladd llawer o'i wŷr, llosgwyd dau o'i dai, sef y Berth- lwyd a'r Cefn Coch. Yn mhen deugain mlynedd wedi hyny cafwyd ysgerbwd dyn mawr, o fath Hywel, yn ngheudod hen dderwen, lle y bwriwyd ef gan Glyndwr, fel y tybid, yn wobr am ei fradwriaeth. Yr oedd adfeilion hen dy Hywel Sele i'w gweled yn mharc Nannau yn amser Pennant, yn un pentwr o farwor a lludw." (Pennant's Tours, v. iii., p. 336). Yr ail a'i gesyd allan mewn agweddiad arall ar ei gymeriad. Dywedir iddo dramwyo y wlad unwaith yn null gwr boneddig dyeithr:- "Yn ol y chwedl hòno, tramwyodd Owain y wlad yn null gwr boneddig dyeithr, er mwyn gwybod tuedd y trigolion, heb ond un cyfaill gydag ef, yn rhith gwas iddo; a chan nad dyogel neb dan arfau yr amser hwnw, aeth y ddau'n anarfog at gastell Syr Lawrence Berclos (Lawrence Berkrolles), a gofynodd Owain am lety noswaith, yn Ffrangeg, iddo ef a'i gyfaill; cael hyny yn rhwydd iawn, a chael croeso mawr a goreuon o bob peth yn y castell; a chan mor foddlawn oedd Syr Lawrens i'w gyfaill, bu'n daer arno aros rhai diwrnodau gydag ef; a dywedyd ei fod ar fyr o ddyddiau yn dysgwyl gweled Owain Glyndwr yno; am ei fod wedi danfon allan ei holl ddeiliadon a'i weision, a llawer eraill o ffyddloniaid iddo, yn nghyrch pob rhan o'r wlad, yn wŷr twng