Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

breuddwydion. (7) Llyfr o Weddiau.-

II. Thomas Jones, Cyllidydd. Nis gwn ddim o hanes y gwr hwn, amgen na'i fod yn bur fywiog gydag Eisteddfodau y rhan olaf o'r ganrif o'r blaen. Dan ei ysbrydiaeth ef y cynaliwyd Eisteddfod Corwen yn 1789.


III. Thomas Jones, Corwen, bardd, llenor, a phregethwr da, yn blodeuo o 1800 hyd 1830. Ceir amryw ddarnau o'i waith yn y cyhoeddiadau perthynol i'r cyfnod uchod. Gwelir cywydd o'i eiddo, a chryn ragoriaeth yn perthyn iddo, yn y Gwyliedydd am 1826, ar y testun "Erthyliad cais y Pabyddion."


EDWARD JONES, gweinidog gyda'r Wesleyaid, a anwyd yn agos i Gorwen, yn y flwyddyn 1775. Yn 1805 aeth i'r weinidogaeth deithiol, gan ddilyn yn mlaen am un mlynedd ar ddeg gyda chymeradwyaeth uchel yn Ngogledd a Dehau Cymru. Dyoddefodd gystudd trwm am 23 o flynyddoedd. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn fardd lled wych. Bu farw yn 1838, yn 63 mlwydd oed.-(Enwogion Meirion).


EDWARD JONES, neu Bardd y Brenin, telynor enwog, a anwyd mewn ffermdy o'r enw Henblas, yn mhlwyf Llandderfel, sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn meddu cryn lawer o awen gerddorol, canys nid yn unig gallai chwareu amryw offerynau cerdd, ond medrai hefyd eu saernio. Dysgodd i ddau o'i feibion, Edward a Thomas, chwareu y delyn Gymreig, mab arall i chwareu y Spinnet, ac arall y crwth, ac yntau ei hun a chwareuai ar organ. Tua 1774 aeth Edward i fyny i Lundain, o dan nawdd amryw foneddigion Cymreig. Ystyrid ef yn delynor campus, o herwydd ei allu i arddangos chwaeth, teimlad, a phwysleisiad priodol gyda'r offeryn. Cafodd gefnogaeth wresog, a bu yn rhoddi gwersi ar y delyn i luaws o foneddigesau uchelradd. Penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, ond nid oedd y swydd hono ond un fygedol a didal Yn 1784 cyhoeddodd ei lyfr tra gwerthfawr hwnw, "Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards," yr hwn a ailargraffwyd gyda chwanegiadau yn 1794. Cyhoeddodd hefyd lyfr arall o'r un natur yn 1802, o dan y teitl, "Bardic Museum of Primitive British Literature". Y mae y rhai hyn yn llyfrau gwir werthfawr a dyddorol, ac yn cynwys sylwadau ar yr hen alawon Cymreig. Yn 1820 cyhoeddodd ran o gyfrol arall, eithr lluddiwyd ef i'w gorphen