Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mater hwn, ac na cheisia efe eto ddinystro geirdarddiad sydd yn gosod ar gof a chadw un o'r tarddodiadau mwyaf dyddorol a rhamantus yn nglŷn â'n gwlad ac a'n hiaith."—GOLYGYDD Y Cymrodor, Ficerdy All Saints, Rotherhithe.

Mae, o leiaf, ddau ddyfaliad arall am darddiad y gair. Un ydyw, y dybiaeth fod y gair yn deilliaw oddiwrth y fan lle y cychwyna mewn dwy ffynon yn mhlwyf Llanuwchllyn. Dyna yr ystyr a geir mewn traddodiad braidd yn gyffredinol yn y plwyf a enwyd. Bu yn gred gan lawer hefyd unwaith mai ystyr y gair yw y drydedd afon. Fel hyn:—Y Gyn-wy (Conwy)—yr afon gyntaf; yr El-wy—yr ail afon; y Dryd-wy—yr hwn a lygrwyd mewn amser yn Ddyfrdwy, Yn y modd hwn yr ydym yn rhy gyfoethog mewn dyfaliadau, nes y mae yn anhawdd penderfynu pa rai i'w gwrthod, a pha un i'w dderbyn. Y mae y dysgedig Pennant yn gwrthod y Dwr—dwy, am nad oedd, meddai ef, yn tarddu o ddwy ffynon; ond ystyriwn bobl Llanuwchllyn yn uwch awdurdod ar fater o'r fath nag estron fel efe, na bu, efallai, erioed yn y fan. Ychydig o gyfathrach oedd rhwng trigolion pen uchaf Penllyn, lle y cychwyna y ffrwd ei rhawd, â gwaelod Edeyrion yn yr hen ganrifoedd, yr hyn, dybiwn, a aiff yn mhell yn erbyn tybied i enw lleol felly gerdded mor bell. Tybiwn mai y peth goreu a allwn ni wneud ydyw gadael y mater i'r darllenydd ei benderfynu, os gall, a dweyd fel esboniad yr hen bregethwr ar "y swmbwl yn y cnawd," mai ein barn ydyw na wyr neb pa syniad sydd yn fwyaf cywir. Nid oes genym un gwrthwynebiad, hyd nes y daw yr afon ei hunan i ddweyd ei bam ar y mater, i'r darllenydd gymeryd ei ddewis.

PENOD IV.
EISTEDDFODAU EDEYRNION.

Y MAE yr Eisteddfod Gymreig yn hen sefydliad, wedi ei drosglwyddo drwy yr oesau er y canrifoedd cyntaf. Diau fod llawer tro wedi bod ar eu byd hwy fel pobpeth isloerawl arall. Byddent weithiau mewn gauaf du, gwgus, a phryd arall dan dywyniad siriol huan haf. Ceir yn ngwaith Pennant (vol. ii., cd. 1810)