Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draethawd manwl a dysgedig yn rhoddi hanes yr Eisteddfodau yn Nghymru, yn nghyda darluniad da o'r prif gymeriadau yn nglŷn â hwy. Bu y beirdd yn cael eu dal mewn bri mawr yn nheuluoedd y tywysogion Cymreig, ac yn mhlith y prif fonedd. Derbynient ffafrau mewn cyflawnder, cynaliaeth gysurus, ac amddiffyniad i'w personau, ac ystyrid gwerth bardd yn gyfartal i bris 126 o wartheg. Tra y mae lluaws o bethau wedi codi yn y farchnad er y dyddiau dedwydd hyny, ofnwn fod bardd wedi myned i lawr gryn lawer yn marn y byd. Ystyrir dyn bellach yn llawer pwysicach na bardd.

Ond âg Eisteddfodau y parth hwn o wlad yr awen y mae a fynom ni, ac ni chaniata gofod ond i wneud nodiadau byrion. Yr oedd rhai o wŷr Edeyrnion yn wyddfodol ac yn cymeryd rhan yn yr Eisteddfod a gynaliwyd yn Nglynceiriog ddydd Iau y Dyrchafael, 1743—Y barnwr yn yr Eisteddfod hòno oedd Sion Prys, yr Almanaciwr dysgedig o Fryn Eglwys, ac Arthur Jones o Gyldini oedd yr enillydd. Fel hyn y canai y naill i'r llall—

"Arthur heb wâd yw athro'r beirdd,
Gan hwn y ceir canghenau cerdd;
De'wch, blant, yn bendant i'r bwrdd,
I godi hwn i'r gadair hardd."

Yr oedd Harri Parry o Graig-y-gath yn rhigymu yno yn ol ei arfer. Un o'r clerfeirdd oedd ef, ond bu mor anturus unwaith a myned i ymryson barddonol gyda Twm o'r Nant; ond dywedai Twm—

"Dolen a chortyn dwylath
I grogi y gwr o Graig y gath."

Cynelid cynulliadau y beirdd y cyfnod hwn mewn tafarndai, ac arferir cryn ryddid ar iaith pan y gelwir rhai o honynt yn Eisteddfodau o gwbl. Canu yn ddifyfyr y byddai y cystadleuwyr yn gyffredin, a'r goreu ar yr oll a ystyrid yn ben bardd y dydd. Lled ddireol fyddai amryw o'r rhai a ystyrient eu hunain yn blant Ceridwen, ac aml yr yfent yn helaethach o drwyth yr heidden nag o'r awen wir. Mae traddodiad yn ffynu fod Eisteddfod wedi ei chyhoeddi i fod yn Nghorwen unwaith, ac i fardd ddyfod ar ei drafael i chwilio am dani. Erbyn cyrhaedd y ty ni