Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welai ond un bardd wedi meddwi, a dau delynor mewn ymryson; ac yna dywedai—

"Eisteddfod hynod i'w henwi—yw hon,
A'i hanes yn ddigri';
Dau delynor yn anfodloni,
A dyn o'i hwyl—dyna hi."

Cymerai rhai dynion hoff o segurdod a'r gyfeddach arnynt eu bod yn feirdd weithiau, er mwyn cael ymgysgodi yn ffafrau gwyr haelionus,—dynion na cheid awen yn eu penau mwy nag y ceir afalau yn tyfu ar bren onen. Un o'r tylwyth hwn, debygid, oedd y teiliwr o Benllyn y sonia Ap Vychan am dano, yr hwn a gredai mewn llenwi ei gylla ar draul eraill ar gyfrif y ddawn a dybiai oedd ganddo. Ond gwnaed deddf y gorfodid ef i dalu dros y cwmni oll os na allai wneud proest neu englyn iddo ei hunan o fewn cylch amser penodol. Ar ol bir ystyriaeth daeth allan y llinell hon——

"Dyma ddyn o Benllyn bwt."

Ond yn ei fyw ni allasai fyned yn mhellach; ond o drugaredd ato gorphenwyd y proest drosto gan un arall—

"A dawn hael o dan ei het:
A raid i we'ydd a phrydydd ffrwt,
Neu deiliwr sal dalu'r siot."

Yn y flwyddyn 1789 cynaliwyd Eisteddfod ar raddfa eangach na'r cyffredin yn Nghorwen, o dan arwydd Owain Glyndwr. Y llywydd oedd Thomas Jones y Cyllidydd, ac yr oedd yn wyddfodol yr enwogion Twm o'r Nant, R. Davies, Nantglyn, Jonathan Huws, Robert Williams, Trerhiwaedog, Gwallter Mechain, &c. Rhoddodd y llywydd y testynau canlynol i ganu arnynt:—1. Adferiad iechyd Sior y III.; 2. Y Frenhines Siarlot; 3. Mr. Pitt; 4 Etifedd Nannau; 5. Pont Corwen; 6. Yr Ysgyfarnog; 7. Dr. Willis, meddyg y brenin; 8. Owain Glyndwr; 9. Arglwydd Bagot; 10. Adardy Rug; 11. Cymdeithas y Gwyneddigion. Dyma englyn a gyfansoddwyd i Bont Corwen yn yr Eisteddfod—

"Saith gameg hardd-deg yw hi—seth ganllaw
Syth gynllwyn dwfr dani;
Syth glwm saith gloer yn poeri,
Safnau'r llwnc nas ofner lli."