Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

preswylfod Mr. Roberts, y meddyg adnabyddus. Prif ddiffyg presennol y lle yw ysgoldy, yr hwn, fel y dysgwylir, a gyflenwir ar fyrder gan y Bwrdd Ysgol. Cedwir ysgol yn bresennol yn neuadd y farchnad. Sonir yn awr am ffurfio gas company, er mwyn adeiladu nwy weithfa i gyflenwi yr ardaloedd hyn a'r cyfleustra anghydmarol hwnw, yr hyn a fyddai yn gaffaeliad gwerthfawr, yn neillduol mewn tai cyhoeddus masnachdai. Rhyw filldir i'r dehau o Benygroes deuwn i bentref hynafol

LLANLLYFNI.

Dygir ein sylw yn flaenaf oll yn y lle hwn gan eglwys barchus, henafol, lwydaidd, St. Rhedyw; a cherllaw iddi y persondy, lle preswylia y periglor, y Parch. William Hughes, M.A. Mae yma gapelydd newyddion gan y Methodistiaid a'r Annibynwyr, ac un arall ychydig o'r neilldu perthynol i'r Bedyddwyr. Mae yma amryw o fan dafarndai; ond nid un gwesty o nod. Gerllaw y fan y mae Tyddyn, a Ffynon Rhedyw, y rhai a elwir felly, oblegid rhyw gysylltiad fu rhyngddynt yn ddiamheu a nawddsant yr Eglwys. Llanllyfni yw yr hynaf, ond y mae ar ol Penygroes, ac hyd yn nod Talysarn am ddestlusrwydd ac amledd ei adeiladau a'i gyfleusderau. Ceir yma hefyd amryw o fasnachdai, y rhai penaf ydynt yr eiddo Mri. Hugh Jones a John Roberts. Mae yma Ysgol Frytanaidd eang, yr hon a gedwir yn bresennol gan Mr. Hywel Roberts, neu Hywel Tudur, y bardd adnabyddus. Rhaid i ni yn awr gyfeirio ein camrau i lawr i ganlyn cwrs y Llyfnwy, a thrwy gwr hen faenor bendefigaidd, tua phentref hynafol

CLYNNOG.

Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad. Byddai yma le digon annifyr i urdd o'r Mynachod Gwynion ddyfod yma eilwaith i breswylio, a gallai Pio Nono yma gael lle i ddiweddu ei einioes hir mewn "anffaeledigrwydd" tangnefeddus, a chael lle bedd gyda Beuno yn ei gapel. Yr ydym wedi cyfeirio mewn lle arall at hen eglwys ardderchog Clynnog Fawr, a Chapel Beuno a'i Gyff a'i Ffynnon a'i Fynwent. Y ty a'r wyneb tywyll yma, gyferbyn a chanol y fynwent, ac yn gwynebu yn union ar y clochdy uchel a chadarn, oedd preswylfod y bardd aur-dlysog y diweddar Eben Fardd; dyna lle bu yn cario yn mlaen ei fasnach, neu o leiaf ei briod yn gwneyd hyny, a'r llythyrdy; dyna lle y bu yn edrych ar ei blant glan deallgar yn tyfu i fyny fel planhigion olewydd o'i amgylch; ac yma drachefn yr edwinai eu gwedd o un i un nes cariwyd yr olaf ohonynt trwy y porth llydan yna i'r fynwent, lle gorphwysant yn dad, mam, brawd, a chwiorydd, yn ymyl eu gilydd, ond yn berffaith ddigymdeithas i'w gilydd hyd foreu mawr caniad yr udgorn diweddaf.

Yn nesaf at yr eglwys yr adeilad hynaf yn Nghlynnog yw y New Inn, hen adeilad o waith yr hen saer maen dihafal Gutto Gethin, am yr hwn