y mae gan y trigolion dihareb am rywbeth anhawdd ei ryddhau, ei fod "mor sound a phin Gutto Gethin." Hen dy arall yn y Nant o'i waith yw Tre Grwyn, a adeiladwyd o gylch y flwyddyn 1662. Y prif westdy yw y Newborough Arms, a gedwir gan Mr. R. Edwards. O'r neilldu ychydig wele gapel y Methodistiaid, a'r Ysgoldy Brytanaidd newydd yn gysylltiedig âg ef. Yma y parotoir dynion ieuainc i'r athrofa yn y Bala. Cychwynwyd yr ysgol hon gan Eben Fardd, dilynwyd yntau gan Dewi Arfon, a golygir hi yn bresennol gan Mr. Williams. Adeiladwyd y Vicarage sydd yma yn amser y Parch. John Williams, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1821. Mae yma hefyd Ysgoldy Cenedlaethol, yr hon sydd dan arolygiaeth y ficer, y Parch. Mr. Price. Heblaw y pethau hyn nid ydym yn gwybod am unrhyw le o ddyddordeb neillduol yn mhentref Clynnog. Ond gwnai yr hen eglwys a'r capel fwy o lawer nag ad-dalu y drafferth o ymweled â'r lle tawel, neillduedig, ac enwog hwn.
Wedi gadael Clynnog, yn nghyfeiriad Pontlyfni, yr ydym yn gadael ar ein dehau, wrth afon Aberdusoch, fryncyn bychan a elwir Bryn y Cyrff, ac ar lan y mor ar ein haswy dyna Bryn y Beddau. Deugain mlynedd yn ol, sef yn ngwanwyn y flwyddyn 1831, darfu i foneddwr Gwyddelig dyeithr a ddaethai i letya y nos flaenorol i Fryn Cynan, daflu ei hun dros y clogwyn hwn nes disgyn dyfnder o tua 25 llath. Yr oll a ddywedodd pan. ddaethpwyd ato oedd, "Dead, dead, dead." Claddwyd ef yn Ynyscynhaiarn gerllaw Cricerth. Yn y Bontlyfni y mae capel bychan dymunol gan y Bedyddwyr, ac yn mlaen rhyngom a Chaerynarfon, wele yn ymddyrchafu glochdy neu dwr pigfain Eglwys St. Twrog, yr hon a adeiladwyd yn ddiweddar ar draul yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, yr hwn sydd yn un o'r adeiladau mwyaf addurniadol a phrydferth yn Nghymru. Cyn dyfod i'r fan hon gadawsom ar ein chwith y Tymawr, preswylfod Hu Gadarn, a'i wraig Gwenhonwy. Y mae Hu Gadarn yn enwog, nid yn unig ar gyfrif ei ychain bannog, eithr hefyd ar gyfrif ei chwaeth lenyddol; a medr ei wraig, Gwenhonwy, nid yn unig feirniadu gweithiau ein prif awduron yn Gymraeg a Saesonaeg, eithr hefyd ymostwng i ymdrechu am gamp o wneyd pâr o hosanau mewn Eisteddfod Genedlaethol, a gorchfygu, a thrwy hyny roddi esiampli'w chydryw o deuluyddiaeth dda. Anhawdd fyddai treulio nawnddydd difyrach nag yn ngwmni y pâr dedwydd a deallgar hyn. Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd ar gyfer Dinas Dinlle, ein pwynt terfynol. Rhaid i ni gan hyny droi yn ol, i fyned drachefn tua chyfeiriad Penygroes a Nantlle, gan ddiweddu yn yr un fan ag y dechreuasom.
Nis gallwn osgoi y brofedigaeth o grybwyll gair am un cymeriad gwreiddiol oedd yn byw nifer o flynyddoedd yn ol, gyda'i wraig a'i ferch, heb fod gan' milldir o bentref Clynnog. Poenid y gŵr hwn un adeg o'i fywyd yn fawr gan amheuaeth a oedd y wraig a'r ferch yn ei garu, ac a fyddent yn debyg o ddangos arwyddion galar a cholled ar ei ol, pe dygwyddasai iddo farw. Nid ydym yn gwybod pa beth yn ymddygiadau y merched tuag at yr hen ŵr a achlysurai y fath amheuaeth; ond y ffaith yw, pa le bynag yr elai, a pha bryd bynag y dychwelai, yr oedd yr ysbryd poenydiol hwn yn ei ganlyn i bob man. Un prydnawn pen-