yr hen gaerau Brytanaidd wedi eu hadeiladu ar benau y mynyddoedd, a'r eiddo y Rhufeiniaid ar wastad-diroedd neu fryniau isel.
O fewn terfynau ein testyn y mae gweddillion pedair o amddiffynfeydd, sef Yr Hen Gaer, Craig-y-dinas, Caer Moel Glanyrafon, a Dinas Dinlle. Am y gyntaf, nid yw ond gweddillion lled anmherffaith, ac yn sefyll ar fryn bychan sydd yn ymgodi yn nghanol y Nant ar lan y Llyfnwy, yn agos i bentref Llanllyfni. Gelwir y bryn yn Bryn-cae-yr-hen-gaer, ac y mae olion y gwarchgloddiau yn ymddangos yn amlwg ar y tu dwyreiniol, y rhai oeddynt unwaith yn ddiamheu yn amgylchu y bryn. Yr oedd sefyllfa y Gaer hon yn hynod o fanteisiol i wylio y dyffryn a'r fynedfa. Gerllaw y bryn y mae ffermdy a elwir Bryn-y-castell, fel y mae yr enwau yn gystal a'r olion yn cadarnau y dybiaeth fod yn y lle hwn orsaf filwrol unwaith yn perthyn i'r Rhufeiniaid.
Y nesaf o'r amddiffynfeydd hyn yw Craig-y-dinas, ychydig islaw pentref Llanllyfni, bron ar gyfer Lleuar, ar dir perthynol i'r Eithiniog Wen. Mae hon mewn cadwraeth dda, yn cynnwys amgaerau uchel o geryg a phridd. Hyd yr amgaer yw tua 350 o droedfeddi, a'r fynedfa yn 17 o droedfeddi. Mae osgoawl hyd yr amgaer dufewnol yn 30 troedfedd, a'r allanol yn 24 o du y gogledd, ac yn 120 troedfedd ar y tu deheuol. Saif Craig-y-dinas ar wastadedd; ond y tu deheuol iddi y mae craig serth, a'r afon yn amgylchu ei godrau mewn cwm dwfn. Ei ffurf sydd hirgrwn (oval), ac yn y canol, rhwng yr amgaer a'r graig neu yr afon, yr ymgyfyd bryn crwn bychan, yr hwn, fel y tybiai Dr. Mason, a allai fod yn safle twr, yr hwn oedd yn nghanol yr amddiffynfa. Mae yn ddiamheu fod hon yn orsaf bwysig mewn cysylltiad â Dinas Dinlle a Chaer Seiont.
Y drydedd amddiffynfa sydd ar ben Moel Glanyrafon, ychydig islaw Mynydd y Derwyn. Oddiar ben y Foel ceir golygfa ysblenydd ar y wlad o amgylch. Oddi dani, ar y tu gorllewinol, y gorwedda hen faeror henafol Pennardd, ac yn mlaen y gorwedd pentref tawel Celynog, wrth draed twr neu glochdy uchel cadarn Eglwys Beuno. Gellir oddiyma ddylyn cwrs brysiog y Llyfnwy, o`i tharddell yn nghesail y Clogwyn Brwnt, hyd ei hymarllwysiad i'r mor. Yma yr adeiladwyd amddiffynfa mewn lle uchel a manteisiol, o'r hon y gallesid gwylio ysgogiadau y fyddyn elynol ar hyd a lled y gwastad-dir o amgylch ogylch. Cynnwysa olion presennol yr amddiffynfa hon amgaerau priddlyd ar ffurf hirgrwn, yn mesur o ogledd i ddehau 304 o droedfeddi, ac o ddwyrain i orllewin 258 o droedfeddi. Safai yn ddolen bwysig yn y gadwyn o amddiffynfeydd Rhufeinig a redant i'r cyfeiriad deheuol o Dinas Dinlle.
Ond y benaf o'r adeiladau hyn yw Dinas Dinlle, yr hon a saif ar ben bryn gwyrddlas bychan ar lan y mor, gerllaw pentref Llandwrog. Nis gallwn gydweled â rhai ysgrifenwyr, y rhai a olygant mai celfyddydol (artificial) yw y bryn lle saif yr amddiffynfa hon, er fod pob rhan o honi, fel y sylwa Pennant, wedi ei lyfnhau gan gelfyddyd. Mae amryw fryniau cyffelyb ar hyd yr arfordir hwn, ac fe ellir barnu, oddiwrth ymddangosiad y ddaear yn y lle y mae y tonau wedi ei thori, y llinell, lle