fynyddoedd Cymru er amser yr ymuniad, fel y byddwn yn gallu dygymod i raddau â dymchweliad ein hannibyniaeth, fel, yn lle bod ymrysonau gwaedlyd a pharhaus rhwng gwahanol lwythau brodorol, a rhwng mân dywysogion, y mae Cymru fechan yn cael ymgysgodi rhag ymosodiadau estronol er pan yr impiwyd hi yn un â'r cyff mawr Sacsonaidd.
PENNOD II.
Parhad Hynafiaethau.
LLANLLYFNI.
Yn y bennod ganlynol ymdrechwn osod o flaen y darllenydd ychydig o grybwyllion am y lleoedd hynaf a hynotaf fel lleoedd addoliad crefyddol. Pa bryd y diflanodd Derwyddiaeth o'r wlad yma, ac y gwelwyd y Derwydd gyda'i farf wenllaes yn gweinyddu wrth allorau y Cilgwyn, yr esgynodd y fflam ddiweddaf oddiar allor Pennardd, neu y sychodd cwpanau gwaedlyd Cromlech Bachwen, nid i gael eu llenwi mwyach gan waed ebyrth, nis gallwn benderfynu, nag ychwaith fyned i mewn i'r amgylchiadau allent ein cynnorthwyo i gasglu; digon yw crybwyll fod genym seiliau cryfion i gasglu fod Cristionogaeth wedi blodeuo yn ardal Llanllyfni mor foreu a'r bedwaredd ganrif. Gwyddom i eglwysi Cristionogol gael eu sefydlu, a'u bod yn flodeuog iawn o dan lywodraeth Cystenyn. Yr had a hauwyd yn yr erlidigaeth blaenorol, ac a ddyfrhawyd â gwaed y merthyron o dan Rufain baganaidd a wreiddiodd ac a ddygodd ffrwyth toreithiog. Ac yn mysg ereill, cafodd y wlad hon fwynhau o'r tawelwch a'r adfywiad yn amser Cystenyn. Cynheuwyd lamp yn Llanllyfni na ddiffoddwyd eto, er iddo ymgolli o'n golwg ni yn nghanol niwl a thywyllwch y canol-oesoedd; ac y mae yn ddilys genym mae dyma y lle cyntaf o fewn terfynau ein testyn a fendithiwyd â "thy i Dduw," ac ar y cyfrif hwn y mae Eglwys Llanllyfni yn haeddu ein sylw blaenaf.
Mae Eglwys Llanllyfni wedi ei chysegru i Sant Rhedyw, neu Rhedicus, yr hwn a flodeuodd tua'r flwyddyn O.C. 316. Am y sant hwn dywed y Dr. W. O. Pugh nad oes dim o'i hanes ar gael; ond os oes rhyw bwys i'w roddi ar adroddiadau, y mae y rhai hyn yn rhoddi lle cryf i gasglu mai brodor o Arfon ydoedd, neu mai efe a blanodd eglwys Gristionogol gyntaf yn Llanllyfni. Ar un cyfnod o'i oes ceir ei fod yn llenwi lle uchel yn yr eglwys yn Augustodunum (Autwn) yn nhir Gâl (Ffrainc). Mae ei enw yn adnabyddus fel ysgrifenydd o gryn enwogrwydd, oblegid cymerodd ran neillduol yn nadl heresi Arius o Alexandria, yn nechreu y bedwerydd ganrif. Yr oedd yr eglwys yn Gâl yn blodeuo y pryd hyn o dan nawdd Constantius, gwr Helena, a thad Cystenyn Fawr. Heblaw fod yr eglwys bresennol yn gysegredig i'r sant hwn, y mae gerllaw yr eglwys ffynon neillduol a elwir Ffynon Rhedyw, a thyddyn hefyd a elwir