fath raddau, nes yr oedd yn methu peidio ymdroi am ddyddiau rai o amgylch y fan. Y mae ei weithred yno, a'i lawysgrifen wrthi, o blaid rhoddi manor Ellesmere i un o'i swyddogion, yn ddyddiedig y 9fed o Fai, 1283. Ar ol iddo dreulio amryw ddyddiau yn pabellu gerllaw Llyn y Dywarchen, gallwn ddilyn ei lwybr i lawr trwy Ddrws-y-coed, yn cymeryd i fyny ei breswyl yn y llys Tywysogol, sef y Baladeulyn. Y weithred gyntaf a gyflawnodd yma oedd rhoddi gorchymyn allan am i'r holl eiddo a gysegr-ysbeiliwyd yn ystod y rhyfel rhyngddo a Llewelyn gael eu hadferyd drachefn i'r Eglwys. Dyddiwyd y gorchymyn hwn ar yr 16eg o Fai, yn y Baladeulyn; ac heblaw y gorchymyn hwn, y mae ar gael amryw freint lythyrau o'i eiddo, dyddiedig o'r un lle yn Mehefin yr un flwyddyn. Wele rai ohonynt:
1. "I Ronw ap Griffin ap Tudur ap Ednyfed, o faddeuant am lofrudliaeth yn achos Dafydd ap Griffith, o Torton, ger Amwythig."
2. "I Bennaeth a Chymdeithas Marchogion Ioan o Gaersalem, i gynnal eu rheolau a'u llysoedd gwladol yn y Deheudir."
3. "I Esgob Llanelwy, i'w ddigolledu am ei draul yn adeiladu Castell Conwy."
4. "I Lywydd Mynachlog Maenan, o hen Eglwys Aberconwy."
Arglwydd y Baladeulyn, yn gystal a Phenychain, yn Eifionydd, a Phenyberth yn Lleyn oedd pendefig o'r enw Tudur ab Engan, neu Einion; ac y mae amryw dyddynod yn y gymydogaeth yn dwyn ei enw, megys Tyddyn ab Engan, Cae Engan, &c. Yr oedd Engan yn oresgynydd i'r Tywysog Owain Gwynedd, ac yr oedd yn preswylio, gan mwyaf, ar ran o'i etifeddiaeth yn Eifionydd, sef Penychain. Yr oedd yn weledig gerllaw y mor, yn agos i'r lle mae gorsaf rheilffordd yr Afon Wen yn awr, adfeilion preswylfod a elwid "Llys Engan," lle tybir fod y pendefig yn byw. Yr oedd i Engan chwaer a elwid Sina, neu Senena, yr hon a briododd Gruffudd ab Llywelyn, ac a ddaeth trwy y briodas hon yn fam i Llywelyn ab Gruffydd, neu "Llywelyn ein llyw olaf." Yr oedd Engan, Arglwydd y Baladeulyn, fel hyn yn ewythr i Llywelyn, yn bleidiwr gwresog i achos ei gâr ac adferiad annibyniaeth Cymru. Dilynwyd Engan yn ei deitlau a'i etifeddiaethau gan ei fab, Tudur ab Engan. Tra bu Iorwerth yn aros yn y Baladeulyn, ysbeiliwyd Tudur o'i holl diroedd drwy drachwant y frenines a'i swyddogion, yn gystal ag eiddo ei ewythr, Gruffydd ab Caradog, Arglwydd y Friwlwyd, yn Eifionydd; a'r brenin a drosglwyddodd y tiroedd hyn yn gynnysgaeth i'r Frenines Matilda, ac i'r breninesau ar ei hol hi. Ar ol i heddwch gael ei sefydlu rhwng Cymru a Lloegr, anfonwyd deiseb, wedi eu hysgrifenu yn Lladin at y brenin Iorwerth, yn erfyn am gael y tiroedd yn ol, yr hyn, fel y tybiwn, a ganiatawyd. Arwyddwyd y ddeiseb hon gan Tudur ab Engan, a'i chwaer Gwerfyl. Ond yn nghorff y flwyddyn gyntaf o heddwch bu farw Tudur, a disgynodd ei diroedd eilwaith i ddwylaw y Goron. Anfonwyd deiseb drachefn at y Senedd, wedi eu harwyddo gan Gruffydd a Llywelyn, meibion Owain, brawd Tudur, yn achwyn, gan fod eu hewythr wedi byw yn agos iawn i flwyddyn ar ol i heddwch gael eu sefydlu, eu bod hwy yn cael dirfawr gam, trwy fod eu tiroedd yn meddiant y fren-