Lleyn:—-"Darfu i'r foneddiges hon, mewn llyfryn a gyhoeddwyd yn 1829, hawlio ei bod yn ferch hynaf, gyfreithlon, i Dduc a Duces Orleans, ac yn dyweyd iddi hi, yn dwyllodrus, gael ei lleoli gan frenin diweddar y Ffrancod, yn Florence, yn 1773, yr hon y darfu i'w rhieni, yn awyddus am etifedd gwryw, ei phrynu gan dafarnwr yn y ddinas hono. Creodd y llyfr lawer o syndod ar y pryd yn Ffrainc."
Y mae ei arglwyddiaeth y Barwn Newborough yn cartrefu bron yn gyson yn annedd ei hynafiaid, y Glynllifon, gan ymddifyru mewn trefnu, adeiladu, a phrydferthu ei barc eang a'i ystad. Y mae efe, fel ei hynafiaid, yn enwog fel cyfreithiwr. Efe yw cadeirydd y Chwarter Sessiwn; ac nid oes ynad mwy cyfiawn a didderbyn wyneb, yn gystal a doeth, уn eistedd ar y fainc. Llywodraethir ef bob amser gan argyhoeddiad o gyfiawnder a dyledswydd; a cholled ddirfawr i achos cyfiawnder fydd ei symudiad o'r safle y mae wedi ei llenwi er cymaint o anrhydedd iddo ei hun er's llawer o amser. Mae ei oedran yn ein rhwymo i synio nad all y dydd y terfynir ei wasanaeth fod yn mhell iawn, er y gallem o'n calon ddymuno hir oes iddo, er mwyn achos cyfiawnder ac uniondeb. Heblaw hyny y mae efe yn foneddwr Rhyddfrydig, fel y mae wedi arddangos ar achlysuron diweddar ei fod yn parchu barn a chydwybod ei isafiaid, trwy eu cefnogi i ymarfer barn a chydwybod mewn cysylltiad â materion, ac yr oedd boneddigion ereill yn ddigon annynol i gymeryd mantais arnynt i orthrymu eu tenantiaid, a phawb o dau eu dylanwad.
NANTLLE NEU PLAS Y NANTLLE.
Sefydlodd cangen o hiliogaeth Cilmin Droed-ddu yn gynar yn y lle hwn. Yr oedd i Morgenau Ynad, yr wythfed o ddisgynyddion Cilmin, ddau o frodyr o'r enwau Ednowen a Philip; a dilynir llinach y ddau i waered i'r amser presennol, y naill yn etifeddion Bodfan, gerllaw y Dinlle, a'r llall yn Glynllifon. Yr oedd mab i Ednowen a elwid Ostroyth, neu Astrwyth, yr hwn a fu dad i Iorwerth Goch, ac yntau drachefn yn dad i Ieuan, i'r hwn hefyd y bu mab o'r enw Einion. Einion hefyd a fu dad i Gronw, ac i Gronw y bu mab a elwid Tudur ab Gronw, ac ar ol hyny Tudur Goch y Nantlle. Bu Tudur ab Gronw, neu Tudur Goch, yn enwog yn amser Iorwerth y 3ydd, y rhyfelwr penaf a esgynodd eriod i orsedd Prydain. Dywedir fod tua 12,000 o'r Cymry yn ymladd o dan ei faner, yn y frwydr fawr a ymladdwyd yn Cressey, yn y flwyddyn 1346: a thrachefn, yn y byddinoedd o dan Iorwerth y Tywysog Du, yn Poictiers a manau eraill, pan gymerwyd Brenin Ffrainc a'i fab yn garcharorion, yn 1356. Ymddengys i Tudur ab Gronw enill anrhydedd a ffafr neillduol ar law y Tywysog yn y brwydrau hyn, ac fel gwobr cafodd Tudur ysgrif-weithred dan sel y Tywysog Du, yn rhoddi iddo chwe' cyfar, neu waith aradr, o dir yn y Nant, neu Baladeulyn, a ddaeth i feddiant coron Lloegr ar farwolaeth Llywelyn. Ar y tir hwn efe a adeiladodd Blas y Nantlle, tua'r flwyddyn 1350. Ei wraig oedd Morfudd, merch Howel ap Iorwerth Vychan, ac orwyres i Ostroyth, ac felly yn garedigion i'w gilydd: a bu eu gwehelyth mewn meddiant o'r lle hwn