am oesoedd, a rhai o'r telu yn trigianu yma. Mab i Tudur Goch y Nantlle oedd Hwlcyn Llwyd, yr hwn a briododd Nest, merch Cynfrig ab Meredydd Ddu, o linach Llywarch ab Bran, ac a fuont yn ben cenedl i amryw deuluoedd anrhydeddus yn y wlad. Ceir amryw gyfeiriadau at Wynniaid Nantlle, yn achau gwehelyth cadarn Cilmin Droed-du. Yn awr, pa fodd bynag, perthyna y tiroedd hyn, sef Nantlle a'r Gelliffrydiau, i Mr. Hughes, o Ginmel. Un o hynafiaid Mr. Hughes, yr hwn oedd offeiriad yn byw ar guradiaeth isel mewn congl o Ynys Mon, a briododd Miss Lewis, o Lys Dulas, eiddo yr hon oedd y darn hwnw o fynydd Parys a drodd allan mor gynnyrchiol o fwn copr, ac o'r cyfoeth a enillwyd yn mynydd Parys y darfu i'r teulu hwn brynu etifeddiaethau y Nantlle, &c., ac a ddelir yn bresennol dan ammod-rwym gan John Lloyd Jones, Ysw., o'r Baladeulyn.
PANT-DU.
Ychydig uwchlaw y ffordd, yn nghyfeiriad Penygroes, y saif palasdy henafol y Pant-du, lle yr ymsefydlodd cangen bwysig o deulu y Glynllifon er's cannoedd o flynyddoedd yn ol. Crybwyllir yn achau y Glynllifon am John Wynn, Ysw., o'r Bodfel, banerwr yn mrwydr Norwich, yn 1549, a siryf dros sir Gaerynarfon yn 1551 a 1560. Hugh ei fab a gymerodd Bodfel yn gyfenwad y teulu, ac o'r teulu hwn, y rhai oeddynt ddisgynyddion o Collwyn ab Tangno, y deilliodd William Bodfel, yr hwn a adeiladodd y palasdy presennol. Yr oedd William Bodfel yn fab i Humphrey Bodfel, LL.B., neu Humphrey ab Richard, ab John, ab Madog, ab Howell, ab Madog, ab Ieuan, ab Cenion, ab Gruffydd, ab Hywel, ab Meredydd, ab Einion, ab Gwgan, ab Merwydd Goch, ab Collowyn, ab Tangno, sylfaenydd un o'r Pymtheg Llwyth. Claddwyd Humphrey Bodfel yn St. Rhedyn, wrth allor y llan; ac y mae ei ysgwydd arfau yn gerfiedig ar ei fedd yn arwyddo ei haniad o gyff-genedl Brochwel Ysgythrog a Chilmin Droed-ddu. Yr amseriad yw 1603. Y mae hefyd arfau ei fab, William, yn gerfiedig yn y Pant-du uwch ben y tân, yn y neuadd, er coffau ei briodas a Chathrine Morgan, aeres Talymignedd Isaf. Y Cathrine hon oedd ferch i Hugh ab Robert, &c., i Tudur Goch y Nantlle, a'i mam oedd Cathrine, ferch Dafydd ab Ieuan, ab Meredydd, o'r Graianog, aeres Talymignedd.
Wyres i William Bodfel, yr hon a elwid Cathrine o'r Nantlle, a briododd â John ab Gruffydd Vychan o Gorsygedol, a'u merch hwythau, Cathrine, a briododd John Garnons, o Garnons Hall, yn Neheudir Cymru, ac a gawsant yn gynysgaeth yr holl diroedd a berthynent i etifeddiaeth Corsygedol, o fewn dyffryn Nantlle. Eu hwyr hwy, sef Richard Garnons, a briododd yn ail âg Ann, merch ac aeres William Wynn, o Blas Llanwyndaf, disgynydd eto oddiwrth Collwyn; ac y mae ei fedd yn mhen dwyreiniol mynwent St. Rhedyn, wrth fur y gangell, a'r geiriau canlynol yn gerfiedig arno:—"Underneath lieth the remains of Richard Garnons, of Pant-du, gent., and Cathrine his first wife; she was buried the 7th day of July, 1718, aged 36; and he on the 17th day of