yr Uwch Filwriad Twisleton a'r Milwriad Carter. Deallodd Syr John Owen am y symudiad, ac efe a aeth gyda rhan o'i fyddin i gyfarfod Twisleton, a chyfarfuasant yn ngwaelod plwyf Llanllechid, mewn maes ar lan y mor a elwir y Dalar Hir. Wedi brwydr galed a gwaedlyd gorchfygwyd Syr John Owen, a chymerwyd ef yn garcharor; a daeth Twisleton yn mlaen i Gaerynarfon. Tra bu yn aros yma daeth i gydnabyddiaeth â Mary, aeres Lleuar, yr hyn a arweiniodd i briodas. Daeth George Twisleton, mewn canlyniad, i fyw i Lleuar at ei wraig, a bu iddynt amryw blant. Yr hynaf o'r plant hyn, George Twisleton, a briododd Margaret, ferch William Gruffudd, Cefn Amwlch, Ysw. Un arall o'r enw Philip Twisleton a ddygwyd i fynu mewn urddau, ac a fu yn ficer yn eglwys Beuno. Bu farw yr ail George Twisleton tua'r flwyddyn 1714. Y trydydd Ceorge Twisleton a briododd Barbara Jackson, o gylch y flwyddyn 1737, ac iddynt y ganwyd Mary, yr etifeddes, yr hon a briododd y Capten William Redsdale, o Ripon, yr hwn a werthodd yr etifeddiaeth i Syr Thomas Wynn o'r Glynllifon, ac efe a laddwyd yn Dettingen yn 1743. O hyny allan y mae etifeddiaeth Lleuar yn ffurfio rhan o ystad helaeth y Glynllifon; ac y mae yn awr yn rhanedig i ddwy o ffermydd, sef Lleuar Fawr a Lleuar Bach. Yr oedd hen balasdy Lleuar yn sefyll yn nes at yr afon na thy presennol Lleuar Fawr. Y mae rhai o hen ddodrefn yr Uwch Filwriad George Twisleton, megis ei gadeiriau, &c., eto yn meddiant Mrs. Gwen Jones, Tregrwyn, ar lan y Llyn Isaf Nantlle, yr hon a'u cafodd ar ol rhai o'i pherthynasau oeddynt yn arwerthiant dodrefn y cadfridog dewr.
BRYNEURA.
Ar du y dehau i Bont Lyfni y mae bryn bychan gwyrddlas a elwir Brynaera neu Bryneura, alias Brynarfau, oddiwrth yr hwn y mae amryw o dai, a chapel y Methodistiaid, yn derbyn eu henwau. Y diwedda, Glasynys a dybiai ei fod yr un a Bryn Arien, yn ngodir yr hwn y mae bedd Tydain Tad Awen. Wele ei eiriau:—"Yr wyf fi mor ofergoelus a chredu mai yno y claddwyd Tydain Tad Awen. Dywed Englynion y Beddau mai yn Mryn Arien y gwnaed hyny; ac nis gwn ond am ddau Fryn Arien, sef hwn, ac un arall yn Nghantref Creuddyn, wrth Gonwy. Tueddir fi i gredu mai yma mae'n gorphwys yr hwn addosbarthodd ar ein cenedl yr elfen farddol; a'm rheswm dros hyny ydyw, ei fod yn cael ei osod mewn un ysgrif o Englynion y Beddau hefo Dylan, yr hwn y gwyddys sydd a'i fedd gerllaw Pwynt Maen Dylan, a'u bod yn gorwedd yn Llanbeuno. Tybia ereill mai Bryn yr Arfau y dylid galw y lle hwn; a chesglir oddiwrth ei agosrwydd i Bryn y Beddau, Llyn y Gelain, a Bryn y Cyrff, fod rhyw gysylltiad wedi bod rhyngddo âg ymladdfeydd o'r fath ac sydd wedi arwydd-nodi y manau hyny.
Dywedir i etifeddiaeth y Brynaera fod yn meddiant dwy foneddiges, fel cyd-aeresau, ac y mae traddodiad yn cyfeirio at foneddiges a eilw yn "Cowntess y Cwn Gwynion," i'r hon y perthynai llawer o diroedd yn Eifionydd ac Arfon; a dywedir fod ei thiroedd yn mhob lle yn nodedig