Erw, Clynnog, oedd maes yr ymdrechfa waedlyd rhwng lluoedd Gruffudd ab Cynan a'r eiddo Trahâiarn ab Caradog. Heblaw Bryn Cynan, y mae yn agos i Bron yr Erw amddiffynffa o graig a elwir Craig Cynan; ac ar derfyn Bron yr Erw y mae Pryscyni, o Prysg a Cynan. Yr oedd hefyd yn myddin y tywysog dri o benaethiad Gwyddelig, o'r enwau Encumallon, Rainallt, a Mathon, ac y mae yn werth ei grybwyll mai un o'r enw Mathon yw sylfaenydd teulu y Pryscyni. Hefyd, y mae yn yr un gymydogaeth adfeilion lluosog a elwir Pencadleisiau, oddiwrth Pencadlys. Yno mae yn ddiamheu yr oedd Pencadlys Trahaiarn. Ar odrau gallt Pryscyni y mae carnedd enfawr; ac nid neppell o'r lle yw Pen bryn-y-fynwent. Gellir cyfeirio hefyd at fryn bychan ar lan yr Aberdusoch, a elwir Bryn-y-cyrff, a lle arall a elwir Bryn-y-beddau, a Llyn-y-gelain, a chae Pen-deg-ar-ugain; y mae y lleoedd hyn yn arwyddo rhyw gysylltiad agos âg ymladdfeydd gwaedlyd, yn yr ymgyrch arfog rhwng Gruffudd ab Cynan a'r gormeswr diawdurdod Trahaiarn ab Caradog. Ac er i Gruffudd orfod ffoi yn orchfygedig yn mrwydr Bron yr Erw, gorchfygodd ei elyn ar ol hyny yn y frwydr fyth-gofiadwy ar fynyddoedd Carno, yn 1077, pan syrthiodd Trahaiarn ar y maes, ac yr adferwyd gorsedd Gwynedd i'w chyfiawn etifedd, yr hwn, ar ol teyrnasu am 57 o flynyddoedd a fu farw, ac a gladdwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor Fawr yn Ngwynedd. Gŵr o'r enw Owen Owens sydd yn byw yn awr yn Bryn Cynan, yr hwn sydd fab i'r diweddar fasnachwr adnabyddus "Sion Owen, o Fryn Cynan."
BRYN-Y-GWYDION.
Gerllaw Bryn Cynan y mae bryn bychan arall, a ffermdy o'r enw Bryn-y-gwydion, a elwir felly, meddir, oherwydd i Gwydion ab Don fod yma yn cartrefu am ryw gymaint o amser. Gwaredog hefyd, ar lan afon Gwyrfai, a nodir fel ei breswylfod. Daeth Gwydion i Wynedd gyda llu o Wyddelod, yn y bedwaredd ganrif, a buont yma yn byw a'u hiliogaeth ar eu hol, yn ysbeilio, ac yn peri blinder i'r Gwyneddion hyd amser Caswallon Law Hir, yr hwn a'u hymlidiodd i'r Werddon gyda lladdfa fawr. Yn y Trioedd Cymreig crybwyllir am Gwydion ab Don fel un o dri Buelydd Ynys Prydain. Buelydd yw ceidwad gwartheg, a Gwydion a ofalai am y fual fawr, neu osgordd uwch Conwy; "ac yn y fual hono ugain mil ac un" (21,000). Rhestrir ef hefyd fel un o'r "Tri Gwyn Seryddwyr Ynys Prydain," ac mai efe oedd y cyntaf i ddysgu i Wyddelod Mon ac Arfon ar lyfr. Heblaw hyny yr oedd yn un o gymeriadau hynotaf y Mabinogion, ac nid oes terfyn ar y chwedlau a'r pethau rhyfedd a briodolir iddo. Crybwylla Englynion y Beddau fod ei fedd yn Morfa Dinlle, rhwng Bryn-y-gwydion a'r mor.
Bu cangen o hiliogaeth y Glyniaid yma yn preswylio. William Glynne, ysw., o Fryn-y-gwydion, Siryf dros swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1634, a briododd Margaret Evans, merch Richard Evans, ac etifeddes ystad Elernion, yn Llanaelhaiarn, yr hwn sydd yn deilliaw o wehelyth Trahaiarn Goch o Leyn. O'r briodas hon y deilliodd Richard