Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wen (Elysium) neu gysegr-ddôl neillduedig Derwyddon a myneirch Clynnog Fawr, yr hon a gylchynid gynt gan wern isel goediog o lun pedol, a'i deuben yn gydiedig gan y mor a'i feisdon caboledig, a'r Fachwen yn ymddyrchafu yn fron brydferth o'r wern nes ymgrynhoi o dan wadnau y gromlech ar uwchaf y maes." (Ioan ab Hu.) Yr oedd yr hen deulu a breswylient yma gynt yn disgyn o linach Tegwared y Bais Wen, yr hwn, meddir, oedd yn fab ordderch i Llywelyn ab Iorwerth neu Llywelyn Fawr. Meredydd, y pummed o ddisgynyddion Tegwared, a briododd Morfydd, merch Howel ab Gruffudd ab Tudur, hen ryfelwr enwog yn ei ddydd, yr hwn sydd yn gorwedd yn Nghor Beuno. I Meredydd y bu mab a elwid John ab Meredydd, o Fachwen, yr hwn a briododd Angharad, merch John ab Llywelyn ab Ieuan, ac iddynt y bu mab, sef Robert ab John, oedd yn byw yma yn y flwyddyn 1588. Robert ab John a briododd Elen, merch Syr John Puleston, marchog; a'u mab hwythau, John ab Robert, a briododd Cathrine, merch Thomas Gruffudd Celynog, a'u hunig blentyn hwy oedd Lowri Gwynion, aeres Lleuar, yr hon a briododd William Glynne, fel y crybwyllwyd o'r blaen mewn cysylltiad âg ach Lleuar.

Yr oedd yn byw yn Machwen, mewn amser diweddarach, wr mewn urddas eglwysig o'r enw Richard Nanney, neu fel yr adnabyddid ef gan bobl ei oes, Nanney Bachwen. Yr oedd yn fab i Richard Nanney Elernion, offeiriad duwiol a phoblogaidd, ficer Clynnog a pheriglor Llanaelhaiarn. Ond nid ymddengys fod ei fab, Nanney Bachwen, yn cyfranogi o'i ysbryd; oblegid ceir ei fod, ar fwy nag un achlysur, wedi codi erledigaeth yn erbyn y Methodistiaid, pan yn dechreu cynnal eu hachos crefyddol tua chymydogaeth y Capel Uchaf. Aeth mor hyf unwaith a myned i mewn i'w haddoliad, gan ddechreu cymeryd ei chwip at y gynnulleidfa oedd yno. Ond gan y daw hyn efallai o dan sylw mewn pennod arall, ni a'i gadawn yn bresennol. Ar fferm Bachwen y mae y gromlech y cyfeiriwyd ati yn ein tudalenau cyntaf. Delir y tir fel tenant i Mr. Jones, ail fab y diweddar Mr. Jones, Yoke House, gan amaethwr cyfrifol a llwyddiannus o'r enw John Gruffudd, yr hwn hefyd sydd yn byw yn bresennol yn yr hen balasdy.

CELYNNOG.

Yr oedd hen deulu pendefigaidd yn byw yn Celynnog, yn perthyn i hiliogaeth Hywel Coetmor, yr hwn a adeiladodd Gastel y Gwaed-dir (Gwydir Castle), gerllaw Llanrwst. Yr oedd Hywel yn fab i Gruffudd ab Dafydd Goch, yr hwn oedd yn fab i Dafydd ab Gruffudd, a brawd i Llywelyn ab Gruffudd, Tywysog diweddaf y Cymry. I Hywel Coetmor y bu mab o'r enw Einion, yr hwn oedd tad Howel Gwynedd, oedd yn fyw o gylch y flwyddyn 1462. Mab iddo ef oedd Dafydd ab Howel, a'i fab yntau John ab Dafydd, a'i fab yntau Morus ab John, a briododd Jane Robert ab John ab Meredydd o Fachwen. O'r briodas hon y deilliodd John a Morus a Rhys Wynne, a elwid Wynniaid y Cim, y rhai oeddynt yn blodeuo o gylch y flwyddyn 1700.