Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crybwyll yma iddi briodi pan oedd tuag 20 oed, a myned i fyw i'r Parlwr Panaman, Dolyddelen, lle yr oedd yn cario yn mlaen yr arferion neillduol at y rhai y cyfeiria Mr. Thomas. "Pan fyddai y gwartheg yn yr haf yn mhell oddiwrth y ty, tuag Aberleinw, elai Angharad gyda'r morwynion i odro, ac wrth ddychwelyd adref, rhoddid y beichiau llaeth i lawr mewn lle pennodol, fel y gallent orphwyso. Yna canai y feistres, tra yr ymroddai y morwynion i ddawnsio. Dyna oedd yr arferiad, pa un ai ar wlaw a'i hindda, nid oedd un gwahaniaeth, yr oedd yn rhaid myned trwy y ddefod, a galwyd y lle hwn yn 'Glwt y Ddawns' hyd y dydd hwn. Yr oedd yn cael ei chyfrif yn wraig nødedig o foesol; ac yn ol syniad yr amseroedd yn dra chrefyddol; ac oblegid y cymeriad oedd iddi am ei dysgeidiaeth, a'i chydnabyddiaeth â chyfreithiau y deyrnas, yn nghyda gwroldeb ei hysbryd, a'r dull arglwyddaidd ac awdurdodol oedd gwbl naturiol iddi, yr oedd gradd o'i harswyd ar yr holl wlad o'i hamgylch.

HYWEL ERYRI.—Hugh Evans, neu Hywel Eryri, oedd fardd cywrain a fu yn byw am y rhan fwyaf o'i oes yn y gymydogaeth hon, er ei fod yn enedigol o Lanfair-mathafarn-eithaf, yn Mon. Gwehydd oedd efe wrth ei alwedigaeth, a lled isel ydoedd ar hyd ei oes o ran ei amgylchiadau tymmorol. Bu fyw am ysbaid yn Abererch, gerllaw Pwllheli, am dros y rhan fwyaf o'i oes mewn lle a elwir Plas Madog, yn agos i Glynnog. Bu fyw y rhan ddiweddaf o'i oes yn Penygroes, lle hefyd y bu farw. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau yn wasgaredig yn ngwahanol gylchgronau a chyfnodolion ei oes. Dywedai Eben Fardd fod rhediad naturiol ei ddawn at duchan; ac y mae ar gof yr ardalwyr luaws mawr o'i gerddi duchan, yn y rhai y dirmygai mewn ymadroddion llym a chyrhaeddgar y cyfryw a'i tramgwyddent. Ganwyd ef o gylch y flwyddyn 1764, a bu farw yn Mhenygroes, yn 1809, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Bedyddwyr Albanaidd, yn Llanllyfni, gyda pha rai yr oedd efe hefyd yn aelod eglwysig.

EDMUND A FFOWC PRYS. —Mewn rhestr o enwogion Arfon a gyhoedd o lawysgrif D. Ddu Eryri yn y 'Brython' am 1860, crybwyllir enwau Edmund a Ffowc Prys, meibion yr Archddiacon Edmund Prys, o'r Tyddyn Du, Maentwrog, ac awdwr byd-enwog y 'Salmau Cân,' Amryw ereill hefyd, megys Iolo Meirion yn ei draethawd buddugol ar enwogion sir Feirionydd a grybwylla am danynt fel meibion i'r Arch. ddiacon. Dywedai y Parch. J. Jones, Llanllyfni ar y pen hwn "fod meibion ac ŵyrion yr Archddiacon Prys wedi bod yn llafurio yn y Nant." Yn ol y rhestr y cyfeirir ati uchod, yr oedd Edmund a Ffowc Prys yn blodeuo tua'r flwyddyn 1702, pryd y dywedir fod yr Archddiacon wedi marw yn y flwyddyn 1624. Ystyrier y gwahaniaeth rhwng 1702 a 1624, a gwelir fod y mab yn blodeuo bedwar ugain mlynedd ond dwy ar ol marwolaeth y tad! Rhaid eu bod wedi myned yn hen iawn cyn blodeuo? Tybiai Eben Fardd, ar sail llythyr o eiddo Goronwy Owain at un William Morys, mai ŵyrion, nid meibion oeddynt y Parchedigion Edmund a Ffowc Prys; y blaenaf yn ficer yn Nghlynnog, a'r olaf yn berson yn Llanllyfni. Ymddengys fod Edmund Prys yn fardd lled