Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddio troseddwyr â meini i farwolaeth yn y lle hwn. Nid oes yma ddim o weddillion meini y fonwent hon yn aros yn bresennol, gan fod y defnyddiau wedi eu cario i adeiladu y tai cymydogaethol.

Y GARDDA.—Wrth yr enw hwn yr adnabyddir llain o dir sydd gerllaw Gwernoer. Y mae y llain hon, yr hon sydd yn nghanol tir Gwernoer, yn perthyn i Penybryn, y tu arall i'r llyn, a'r rheswma roddir dros hyn a geir mewn traddodiad sydd yn dal cysylltiad â'r lle. Ni a'i rhoddwn yn ngeiriau rhyw ysgrifenydd o'r gymydogaeth hon amryw o flynyddoedd yn ol yn yr 'Amserau.'—" Yr oedd yn Nant Nantlle 80 neu 100 mlynedd yn ol gynifer a phymtheg o fan dafarndai. Yr oedd un o'r cyfryw ar lain o dir o eiddo R. Hughes, Ysw., a elwir y Gardda. Byddai trigolion y Nant yn ymgasglu at eu gilydd ar ddydd y Sulgwyl llawen i yfed y diodydd meddwol, canu, a dawnsio. Un tro yr oeddynt wedi ymgasglu yn y Gardda, ac wedi iddynt yfed a meddwi aeth dau o'r cymydogion i ymladd, ac yn yr ymladdfa lladdodd y naill ddyn y llall, ac o herwydd hyny aeth y llain o dir o feddiant Mr. Hughes yn eiddo i'r llywodraeth. Prynodd Mr. Carnons hi drachefn gan y llywodraeth, ac y mae yn eiddo i'w deulu hyd y dydd heddyw." Gyda golwg ar y lle hwn ceir y sylw canlynol gan, yr hynafiaethydd dysgedig o Lanllyfni:—"O. dan gyfreithiau Hywel Dda, os digwyddai i neb golli ei fywyd mewn rhyw gythrwfl, a theulu'r llofrydd yn nacau talu ceiniog y paladr, yr oedd ei dir yn myned yn eiddo i'r brenin, neu y tywysog, ac yn cael ei alw yn waed-tir; a lle bynag y mae cae neu dyddyn yn dwyn yr enw hwn gallem ei gyfrif i ddamwain o'r fath yma. Pwy bynag oedd yn perchen Gwernoer y dyddiau hyny, pan aeth y Gardda allan o'i feddiant, efe oedd yn gyfrifol am y weithred." Dywedir yn gyffredin am y llain yma mai "gwerth gwaed ydyw."

RHOS-YR-HUMAN.—Yn agos i bentref Llanllyfni y mae tyddyn yn dwyn yr enw hwn. Nid yw ystyr na tharddiad yr enw yn wybodus ini; ond clywsom y traddodiad canlynol yn cael ei adrodd yn nghylch y lle:—Un boreu gwanwyn hafaidd, a'r haul melynwar yn cyfodi dros lechweddau yr Eryri, yr oedd bugail yn Nghwm y Dulyn yn troi allan i edrych am ei braidd; ac er ei fraw canfu fintai fawr o Wyddelod wedi gwersyllu ar lan y Llyn Uchaf, wedi ymsefydlu yno gyda'r bwriad o anrheithio ac ysbeilio y wlad o amgylch. Y bugail cyffrous a redodd i fynegi i'r awdurdodau, ac anfonwyd brys-negeswyr i Leyn a Chricerth am filwyr, y rhai pan ddaethant a gloddiasant ffosydd ac a ymguddiasant yn y rhos hon, a phan nesaodd y fintai ysbeilgar hwy a ruthrasant arnynt o'r ffosydd gyda'r fath laddfa a gwasgariad nes llwyr ddinystrio yr ysbeilwyr ar unwaith. Dyma yr amgylchiad a roddes fod i'r enw Rhos-yr-human, medd ý chwedl, gan nad beth yw ei briodol ystyr.

PONT-Y-CIM.—Ychydig islaw Craig y Dinas y mae yr afon Llyfnwy yn cael ei chroesi gan bont a elwir Pont-y-Cim, am ei bod ar gyfer y lle hwnw mae yn debyg. Y mae seiliau i feddwl fod gwirionedd yn yr hanes canlynol am y bont hon, ac achlysur ei chyfodiad:—Ar noswaith dymhestlog yn ngauaf y flwyddyn 1612, pan oedd y gwlaw yn disgyn yn bistylloedd, a'r cornentydd hyd lechweddau y mynyddoedd yn chwyddo