y Llyfnwy dros ei cheulenau, y nos hono yr oedd gwyryf brydferth yn eistedd wrth dan siriol yn yr Eithinog Wen yn disgwyl ei chariadfab. Y nos a gerddai yn mhell, ond nid oedd efe yn gwneyd ei ymddangosiad; ac ychydig a feddyliai hi fod ei charwr anturiaethus yn brwydro a'r elfenau, gan gyfeirio ei ffordd tuag ati. Yr oedd efe yn fab Elernion, Llanaelhaiarn; ac wedi marchogaeth yr holl ffordd trwy y gwlawogydd, ond yr oedd yn rhaid iddo groesi y Llyfnwy yn y fan lle saif y bont yn awr; mentrodd y lle, ond oherwydd nerth ffrochwyllt treigliad yr afon collodd y march ei draed a boddasant ill dau yn nyfroedd y Llyfnwy! I goffau yr amgylchiad hwn cyfranodd y ferch ieuanc ugain punt i gyfodi pont dros yr afon yn y fan lle boddodd ei chariad, a pharodd i gofnod o'r amgylchiad gael ei dori ar gareg, yr hon a welir yn y mur-ganllaw hyd heddyw, a'r argraff ganlynol arni:—"Catring Bwkle hath given twenty Poundes to mack the Brige, 1612." Nid oedd y bont ond cul ar y cyntaf, ond pan ddigwyddodd fod eisieu myned ag un o aelodau teulu y Glynllifon i Bodfuan i'w gladdu adeiladwyd darn yn ei hystlys, fel y gallai yr elorgerbyd fyned drosti. Y ffaith hon a rydd gyfrif am y darn newyddiaf a welir ynddi.
FFYNON DIGWG.—Ar derfynau hen faenor bendefigol Pennarth y mae ffynon nodedig a elwir Ffynon Digwg. Y traddodiad am y lle sydd fel y canlyn, yr hwn a adroddir yma yn ngeiriau y bardd o Glynnog Fawr:"Dygwyddodd gynt i un o'r gweithwyr yn yr Aberffraw fyned i lys Ynyr Gwent, ac nid oedd tecach llanc nag ef; ac wedi gweled o ferch Ynyr Gwent ef, nis gallai aros am funyd allan o'i gyfeillach; a rhyngodd bodd i'r brenin, pan wybu hyny, roddi y llanc yn briod i'w ferch, rhag y mynai hi ei gael ef mewn rhyw ffordd arall; gan ymfoddloni i gaffael gwr mor hardd yn fab ac yn ddeiliad: ac ar ol ysbaid o amser dychwelodd y gwr ieuanc gyda'i wraig i'w wlad ei hun, a hwy a ddaethant i le a elwir Pennarth yn Arfon, ac yno disgynasant oddiar eu meirch ac aethant i orphwys; a chan ludded a blinder daeth cwsg ar y dywysoges, a thra yr oedd hi yn cysgu daeth cywilydd mawr arno ef fyned i'w wlad gyda gwraig mor bendefigaidd ei haniad, heb ganddo le i'w chymeryd iddo, a gorfod myned eilwaith i'r lle y buasai yn gweithio ynddo ac yn enill ei gynhaliaeth: ac yna, trwy gynhyrfiad y diafol, efe a dorodd ymaith ei phen tra yr oedd hi yn cysgu, ac a ddychwelodd gyda'r meirch gwerthfawr, a'r aur a'r arian, at y brenin, trwy yr hyn bethau y cafodd efe swydd ganddo i fod yn oruchwyliwr iddo. A bugeiliaid Beuno a ganfuant y corph, ac a aethant yn ddioed i fynegi iddo; yna Beuno a aeth gyda hwynt yn ddiymdroi i'r lle yr oedd y corph ynddo, ac yn y fan efe a gymerodd y pen ac a'i gwasgodd at y corph, a chan gwympo ar ei luniau efe a weddiodd ar Dduw fel hyn:—'Arglwydd, Creawdwr y nef a'r ddaear, rhag yr hwn nid oes dim yn guddiedig, cyfod gorph y ferch hon mewn iechyd,' ac yn y fan cyfododd y wyryf yn hollol iach, ac a fynegodd i Beuno yr hyn oll a ddygwyddodd: yna Beuno a ddywedodd wrthi, 'A fyni di ddychwelyd i'th wlad, ynte aros yma gan wasanaethu Duw.' Y wyryf fwyn a da a ddywedodd, 'Yma yr arhosaf fi gan wasanaethu Duw, yn agos i ti yr hwn a'm cyfodaist o farw yn fyw.' Ac yn y fan lle