mwg yn esgynody yr hen lanc, ac ofnasant nad oedd pob peth yn iawn; ac wedi llwyddo trwy anhawsdra i fyned i mewn, cawsant ef yn farw a fferedig yn ei wely! Mor druenus yw bywyd yr unig!
ROBERT YR AER.—Yr oedd yn byw yn Talysarn Uchaf gymeriad hynod a elwid Robert yr Aer, ac efe oedd aer neu berchenog y lle hwnw. Yr oedd amryw arferion digrif gan Robert, un o ba rai oedd y canlynol:—Cymerai bleser mawr mewn dal pren yn y tan nes y byddai wedi haner llosgi, wedi ei gael i'r cyflwr hwnw rhedai ag ef nerth ei draed er mwyn ei daflu i'r afon oedd gerllaw, er mwyn clywed y pren tanllyd yn ffrio wrth ddyfod i gyffyrddiad â'r dwfr? Yr aer hwn a drosglwyddodd ei holl direodd, ar y rhai y mae cloddfeydd llechau cyfoethog yn awr, i Mr. Garnons, ar yr amod fod iddo roddi £50 yn y flwyddyn iddo ef tra byddai efe byw; ond bu farw yr aer yn mhen tua blwyddyn ar ol y cytundeb hwn, a disgynodd ei dir yn eiddo Mr. Garnons, yr hwn nid oedd na châr na pherthynas iddo; ac felly y difuddiodd ei hiliogaeth ei hun o'r hyn a ddylasai eto fod yn meddiant rhai o'r teulu. Hen lanc oedd Robert ei hun, ac yr oedd yn byw y rhan olaf o'i oes mewn ystafell allan, berthynol i dy Talysarn Uchaf. Amryw ereill a haeddant gael eu crybwyll yn y dosbarth hwn, ond gan ein bod wedi enwi y rhai mwyaf nodedig, dichon mai terfynu y rhan yma o ddosbarth y Cofiannau fyddai cymhwysaf, er mwyn ini fyned rhagom at bethau mwy dyddorol a phwysig.
PENNOD III
Parhad Cofiannau
Yn y bennod hon ymdrechwn roddi braslun o hanes dechreuad a chynnydd yr achosion crefyddol o fewn ein terfynau. Yr ydym wedi crybwyll o'r blaen fod Cristionogaeth wedi cael ei phlanu yn Llanllyfni yn foreu, mor foreu fe ddichon ag amser Cystenyn, gan St. Rhedyw; ac yn Nghlynnog Fawr, yn y chweched ganrif, gan Beuno; ac yn awr, cawn fyned rhagom i nodi rhai ffeithiau yn nglyn â hanes dechreuad Ymneillduaeth yn y parth hwn. Ymddengys oddiwrth bob tystiolaeth sydd genym mai isel a dirywiedig iawn oedd agwedd foesol trigolion y dyffryn hwn cyn cyfodiad Ymneillduaeth. Nid oedd y gwasanaeth ffurfiol a gynnelid yn yr eglwysi plwyfol yn gwneyd nemawr tuag at grefyddoli y preswylwyr. Heblaw hyn, achosodd cynnydd yn ngweithfeydd copr a llechi y gymydogaeth, i ddynion o bob cwr ymgasglu yma, ac yn ei plith rai o'r cymeriadau gwaethaf. Poenid yr ychydig a ofalent rywbeth am grefydd gan eu harferion anfoesol, yn enwedig ar y Sabbothau, Hela gyda chŵn, ymgasglu at eu gilydd i chwedleua, gorweddian hyd y maesydd, ymyfed, ac ymladdfeydd gwaedlyd, —y pethau hyn a'u cyffelyb oedd yn cael eu cario yn mlaen ar y Sabbothau. Ond yr Ysgol Sabbothol, cynnydd y capeli, a gweinidogaeth yr efengyl a ddygasant y pethau hyn o'r diwedd i warth, a thra y mae eto lawer o anfoesoldeb, diogi, a segur-