dod yn parhau, er hyny y mae mynychu rhyw le o addoliad, ymwisgo yn drefnus ar y Sabboth, &c., wedi dyfod yn bethau hanfodol i raddau o barch, hyn yn nod yn ardaloedd gwylltaf y gweithfeydd. Ond rhaid i ni fyned rhagom i grybwyll yn flaenaf am
DRWS Y COED.—Rhywbeth yn gyffelyb i'r darluniad uchod oedd hanes y lle hwn, yn flaenorol i gyfodiad yr achos Annibynol yn y lle. Tua'r flwyddyn 1700, dygwyddodd i deulu crefyddol perthynol i gyfundeb y Morafiaid ddyfod i fyw i Drws y coed, y rhai a wnaethant les mawr yn y gymydogaeth. Adeiladwyd capel bychan yn agos i Drws y coed Uchaf, yr hwn a elwir yn awr Bwlch Culfin; ond yn mhen ysbaid ymadawodd y teulu uchod oddiyma, trowyd y capel yn dy annedd, a darfyddodd son am le o addoliad am hir amser hyd oni roes yr Arglwydd yn meddwl gŵr o'r enw William Gruffudd, Drws y coed Uchaf, ddarparu lle i'r arch yn ei dy ei hun. Adeiladodd W. Griffith dy newydd yno, a chyfansoddodd benill, yr hwn a welir yn doredig ar lech uwch ben y ty presennol yn Drws y coed Uchaf, yr hwn sydd fel y canlyn:
"Dymuniad calon yr adeiladydd, Yr hwn a'i gwnaeth o ben bwygilydd, Fod yma groesaw i Dduw a'i grefydd Tra bo ceryg ar ei gilydd."
Dymuniad sydd yn cael ei gyflawni i raddau helaeth hyd heddyw, ac hyderwn mai felly fydd "tra bo ceryg ar eu gilydd."
Yn y flwyddyn 1790, daeth gwraig o'r enw Ellen Evans i fyw i'r Storehouse. Yr oedd hon yn aelod o eglwys Annibynol Talysarn, a dywedir ei bod yn wraig nodedig o grefyddol. Pan heneiddiodd Ellen Evans, nes methu dilyn y moddion yn Talysarn, erfyniodd am gael ambell oedfa yn y Storehouse, ac y mae yn y ty hwnw gongl neillduol a elwir Congl y Pregethwr hyd heddyw. Y wraig hon oedd y gyntaf i broffesu egwyddorion Annibynol yn y lle. Wedi bod pregethu am ysbaid yn y Storehouse, Talymignedd, a Drwsycoed uchaf, daeth i feddwl John Jones, goruchwyliwr y gwaith copr, adeiladu capel yma. Bedyddiwr oedd John Jones, ac aelod o'r cyfundeb hwnw yn y Felingeryg. Bu yr eglwys a'r gynnulleidfa am dymhor wedi hyn yn gymysgedig o Annibynwyr a Bedyddwyr, gan mwyaf; ond anghydfod a ddilynodd, a llwyddodd yr Annibynwyr i gael lease ar y capel, ac iddynt hwy y mae hyd heddyw yn perthyn. Dywedir mai nifer o ddynion dibroffes oeddynt y rhai cyntaf i ymgynnull at eu gilydd i gadw Ysgol Sabbothol yno. Bu amgylchiadau yr eglwys hon yn gyfnewidiol gyda golwg ar rif yr eglwys a'r gynnulleidfa, yn ol fel y byddai sefyllfa y gwaith mŵn. Ar y pryd yr ydym yn ysgrifenu cynnwysa tua thriugain o aelodau, a rhifedi cyffelyb yn yr Ysgol Sabbothol. Er's tua pymtheng mlynedd yn ol y mae yr eglwys hon, yn gystal a'r eiddo Talysarn, o dan ofal y Parch. E. W. Jones. Yn yr eglwys hon cyfodwyd pedwar o bregethwyr, sef un o'r enw D. Davies a Richard Jones, gwr ieuanc addawol, a fu farw yn ieuanc, Y Parch. Hywel R. Jones (Rhodri Arfon), bardd a llenor rhagorol, sydd yn awr