Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi myned yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd addoldy eang a chyfleus wrth y brif-ffordd, yr hwn hefyd a aeth yn rhy gyfyng, hyd onid yw yr eglwys sydd ynddo wedi bwrw allan ganghenau blodeuog i Nantlle a Hyfrydle, a'r hen fam-eglwys yn gadarn a llewyrchus eto.

Cymerodd amgylchiad le ar agoriad Capel Talysarn ag y byddai ei grybwyll efallai yn llesol i'r rhai a'i hystyriant. Ymddengys fod dau o deuluoedd cyfrifol yn y gymydogaeth wedi dewis yr un seat yn y capel newydd, ac er pob ymgais ni ellid cael gan y naill blaid na'r llall roddi i fyny. Boreu ddydd ei agoriad canfyddwyd fod un o'r teuluoedd wedi myned i mewn trwy y ffenestr cyn i'r drysau gael eu hagor, a llenwi y seat, fel pan ddaeth y teulu arall i mewn y gorfu arnynt gymeryd eu heisteddleoedd yn y naill fan a'r llall yn y capel. Modd bynag, effeithiodd yr amgylchiad gymaint ar feddwl y mab hynaf yn y teulu gorchfygedig fel y llefodd allan ar ganol yr oedfa, a'r Parch. W. Morris, Cilgeran, yn pregethu, fel y gorfuwyd tori yr addoliad i fyny mewn annhrefn; ac erbyn cymeryd y llanc allan gwelid ei fod yn wallgof, a pharhaes felly hyd ddydd ei farwolaeth, er dirfawr ofid i'w deulu a drwg deimlad annileadwy rhwng cymydogion! Dyma un o gampau dieflig y bod annynol a alwai un hen dduwinydd manylgraf, gyda llawer o briodoldeb, yn "Gythraul y gosod seti."

Yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd capel yn Nhalysarn gan y Bedyddwyr. Nid oedd yma unrhyw fath o addoliad yn cael ei gadw gan y cyfundeb hwn yn flaenorol i agoriad y capel. Y pryd hyny corpholwyd eglwys ynddo yn rhifo 22 o aelodau gwreiddiol yn eglwys y Felingeryg. Am y blynyddau cyntaf bu yr achos yma o dan olygiaeth y Parch. R. Jones, Llanllyfni, a'r ddwy eglwys yn ffurfio un daith Sabbothol, eithr er's amser bellach y mae pob un o honynt ar wahan, ac yn gofalu am weinidogaeth drostynt eu hunain. Rhifedi yr eglwys hon yn 1862, fel y crybwyllwyd, oedd 22; y mae yn bresenol yn rhifo 52, a'r Ysgol Sabbothol yn 80, gyda chynnulleidfa gynnyddol.

Tua dwy flynedd yn ol dechreuwyd achos yn y gymydogaeth hon gan yr Eglwys Sefydledig. Daeth gwr ieuanc crefyddol a hynaws yma fel cenhadwr, a llwyddodd yn fuan i gasglu cynnulleidfa mewn ystafell gerllaw palasdy Talysarn. Brodor o'r Deheudir oedd Mr. Williams, a bu farw yma yn 1869 yn mlodeu ei ddyddiau. Claddwyd ef mewn modd anrhydeddus yn Llanllyfni, a gweinyddwyd yn ei angladd mewn rhan gan ei noddwr a'r Gwir Barchedig Dr. Campbell, Arglwydd Esgob Banger. Ei olynydd yw y Parch. Mr. Williams, genedigol o'r Penrhyndeudraeth, a mab i W. Williams (Gwilym Idris), pregethwr yn nghyfundeb yr Annibynwyr yn y lle hwnw. Bydd y gynnulleidfa yn cael ei symud yn fuan i le mwy cyfleus, gan fod yma eglwys newydd eang a phrydferth ar fin bod yn barod. Nid ydym yn awr mewn mantais i wybod yn hollol rifedi y cymunwyr mewn cysylltiad â'r Eglwys Sefydledig yma.

LLANLLYFNI.—Y cyntaf o'r cyfundebau Ymneillduol i ymsefydlu yn Llanllyfni oedd y Methodistiaid. Ymddengys fod pregethu i lawr y dyffryn, mewn lle a elwir Berth Ddu Bach, er's peth amser, ac i wr o'r enw William Williams, o Lanllyfni, fyned yno i wrando pregeth.