Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwyd yn y gwaith drachefn gan berchencg y tir, sef T. A. Smith, Ysw., Faenol, ac yn y flwyddyn 1833 yr oedd yma tua 400 yn gweithio, symiau helaeth o gopr yn cael ei godi, a'r gwaith yn troi elw da i'r perchenog. Yn bresennol y mae y gwaith hwn wedi ei ddwyn i agwedd hynod o isel. Nid oes ar hyn o bryd lawn tri dwsin o weithwyr yn y ddau waith, sef Drws-y-Coed a Simdde Dylluan, nid yn gymaint oherwydd prinder yr adnoddau yn y ddaear, eithr am fod y galwad am gopr yn ychydig, a'i bris oherwydd hyny yn isel.

Crybwyllasom fod Drws-y-Coed yn gorwedd with droed y Mynyddfawr ar un llaw, a'r Garn ar y llaw arall, ac ni fuasai neb yn dewis lle mor anghysbell a diffygiol o bob cyfleusderau cyffredin fel lle i fyw ynddo, oni bai y gwaith. Am ychydig fisoedd yn yr haf y gall y trigolion o'u tai weled yr haul; ond y mae copaäu y mynyddoedd o'i amgylch bron yn wastad yn orchuddiedig gan darth a niwl. Nis gall y lle fod yn iach i fyw ynddo, ac y mae mwy o farwolaethau yn cymeryd lle ynddo nag unrhyw le o'i faint o fewn sir Gaerynarfon, a'r cwbl bron yn ddieithrad, meddir, o'r un afiechyd, sef math o nychdod neu ddarfodedigaeth, wedi ei gynnyrchu gan oerfel. Mae yma tua 30 o dai annedd, annhrefnus mewn cymhariaeth, un capel, ond heb yr un siop nag un ysgol ddyddiol sefydlog, nag un dafarn ychwaith; a rhydd y ffaith olaf gyfrif am gyflwr rhinweddol a moesol y mwyafrif o'r preswylwyr. Mae yma gyfleusdra i ymohebu â'r byd mawr oddiamgylch yn gyson, gan fod llythyr-gludydd rheolaidd rhyngddo a Phenygroes; a thebyg y bydd i'r byrddau ysgol drefnu yn fuan ryw ddarpariaeth ar gyfer y plant sydd yma. Rhaid ini adael y lle hwn ar hyn, onide byddwn yn hir cyn bwrw golwg dros holl faes ein testyn. Rhwng Drws-y-Coed a Nantlle agorwyd gwaith mwn yn ddiweddar mewn lle a elwir y Benallt; bernir fod yno blwm i'w gael, ond ni fedrwn ddweyd dim gyda golwg ar lwyddiant yr anturiaeth, gan nad ydyw hyd yn hyn wedi ei benderfynu.

Y LLECHGLODDFEYDD.

Gan mai y llechgloddfeydd yw asgwrn cefn masnach y rhan uwchaf a mwyaf poblogaidd o Nant Nantlle, fe oddefir ini ymhelaethu ychydig ar eu hanes. Y mae yn anmhosibl penderfynu i sicrwydd pa bryd, a chan bwy, nac yn mha le y dechreuwyd cloddio llechau, gyda'r bwriad o'u defnyddio i doi tai. Y math o dai a godid yn flaenorol a ddesgrifir gan un ysgrifenydd fel y canlyn:—"Yr oedd muriau a tho ty yn yr hen amser yn dra thewglyd. Gwneid y muriau yn drwchus, y rhai a lenwid â chlai neu gymrwd, a gorchuddid oddifewn â'r un defnydd, ac oddiallan mwsoglid hwy; ar hyn gosodid y coedwaith wedi ei gymhlethu a gwiail, ac ar hyn to o dyweirch gleision gwydnion o'r mynydd, ac yn uchaf te o lechi. Oddifewn, uwch ben, crogid math o gar neu gronglwyd o wiail eto, ac ar hono y cedwid bara ceinch, cig sych, &c., ac ystyrient eu hunain yn dra chlud o dan y gronglwyd hon; a dyma y math hynaf o dai a ddaethant i lawr i'n hamser ni, oddieithr y palasau."