Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yw y cytiau a elwir gwaliau ond pentyrau wedi eu bwrw ar eu gilydd yn y modd mwyaf diofal, ac wedi eu lled-doi uwch ben a chlytiau e'r maintioli mwyaf allant gael at y gwasanaeth. Trwy y gwaliau hyn y chwyrnella y gwynt a'r gwlaw bron yn ddirwystr, a chan eu bod bron bob amser yn cael eu hadeiladu ar uchelfanau y bonc, y maent yn sicr o fod yn hollol anghymwys i unrhyw ddynion eistedd ynddynt bron am ddeuddeng awr. Wedi gwlychu hyd at y croen y mae yn arferiad gan lawer o'r chwarelwyr ymgasglu at eu gilydd i Gwt y Boiler i'r gwres, a gadael i'w dillad gwlybion sychu felly am danynt. Y mae y corph, dan yr amgylchiadau hyn, yn sugno lleithder afiach i mewn i'r cyfansoddiad, a'r hyn yn amlach nag y meddylir, sydd yn diweddu mewn marwolaeth anamserol. Nid ydynt yn ofalus iawn ychwaith yn nghylch yr ymborth mwyaf priodol. Y boreu, yn eu brys, cymerant gwpanaid neu ddwy o de, ac i'w canlyn yn y can bach cymerant ffrwyth yr un ddeilen drachefn i giniaw. Ac yn aml iawn ni bydd ond te i groesawu eu dyfodiad adref. Ac yr ydym yn adnabod amryw o honynt mor hoff o ffrwyth y ddeilen fel na ofalant am ddim byd arall. Ond dylid cofio sylw Miss Nightingale:—" Y mae ychydig o de yn feddyginiaeth; ond y mae gormod o hono yn wenwyn." Nid oes dim mwy niweidiol er cynnyrchu gwendid gewynol, annkreuliad, a nychdod, nag arferiad anghymedrol o ffrwyth y ddeilen dramoraidd hon. Esgusodir ni am grybwyll y pethau hyn, nid am nad ydynt eisoes yn eu gwybod, eithr am y dymunem i'r cyfryw bethau ag sydd yn niweidiol iddynt gael eu symud ymaith.

Caniataer ini ddyfynu sylwadau un ysgrifenydd ar nodweddau cymharol y chwarelwyr:—"Os yn ein cyfarfod ar y ffordd y mae y chwarelwr cawn olwg lanwaith, deneu, lwyd, fywiog, hyf arno. Os yn ei ddillad goreu y bydd, ychwanega wychder at y pethau hyn. Mae ei waith yn un glan, a thebygol fod hyny yn ei wneyd yn hoff o lanweithdra yn mhob man, ac yn mhob peth arall. Diameu na cheir un adran fawr o'r dosbarth gweithiol mor lan eu dillad a'u tai. Nid oes le i ferched yn y llechgloddfeydd fel y maent mewn gweithydd mawrion ereill, a gall hyny fod mewn rhan yn achos o'r glendid, trwy eu bod hwy yn cael eu hamser gartref i lanhau. Mae lle gweithio y chwarelwr yn beryglus hefyd, a digon tebyg fod hyny yn meithrin yr hyfdra sydd mor amlwg yn y cymeriad. A gall fod diffyg cyfleusderau i gymdeithasu a dosbarth uwch na hwy eu hunain yn helpio i'w gwneyd yn hyf. Gan fod eu hamser gweithio yn fyrach nag eiddo llafurwyr, ceir segurdod yn un o frychau y cymeriad. Segurdod ydyw diffyg mawr y chwarelwyr ieuainc, ac y mae cysylltiad rhwng hyny a gwario arian, yr hyn a ddilynir gan res o ddrygau ereill. Haelioni, dylid dywedyd, sydd yn amlwg yn y cymeriad. Mae y chwarelwyr yn fwy darllengar nag ydynt o feddylgar. Dengys y traethodau erbyn y cyfarfodydd cystadleuol yn ardaloedd y chwarelau, fwy o ol darllen a llai o ol meddwl, nag a geir yn y cyfryw yn y cymydogaethau amaethyddol. Mae bod cymaint o'r chwarelwyr yn nghyd, a'u bod yn nghyd am gymaint o'u hamser, yn peri hefyd eu bod yn fwy chwedleugar."

Diffyg a deimlir i'r byw yn Nant Nantlle yw absennoldeb unrhyw fath